Arawn
Arawn yw brenin Annwn (Annwfn) yng Nghainc Cyntaf y Mabinogi. Dim ond yn y Pedair Cainc y ceir cyfeiriad ato, ond erys cof amdano yn y dywediad traddodiadol a geir mewn chwedl werin o Geredigion,
- 'Hir yw'r dydd a hir yw'r nos, a hir yw aros Arawn'.[1]
Ym mhennod agoriadol y chwedl, mae Pwyll Pendefig Dyfed yn mynd i hela â'i helgwn yng Nglyn Cuch, Dyfed. Mae'n anfon ei helgwn ei hun ar garw sydd eisoes wedi'i ladd gan helgwn rhyfeddol Arawn. Mae disgrifiad yr helgwn hyn yn un o'r darnau mwyaf cofiadwy ac adnabyddus yn y Pedair Cainc. Roeddent o liw 'claerwyn llathraidd ("disglair"), ac eu clustieu yn gochion. Ac fal y llathrai ("disgleiriai") wyned y cwn, y llathrai coched eu clustieu'.[2]
Daw Arawn i'r golwg, yn marchogaeth march brychlas (erchlas) gyda 'gwisg o frethyn llwyd amdano yn wisg hela'.[3] Cwyna wrth Bwyll am fod mor anghwrtais. Disgrifia ei hun fel 'brenin coronog' yn ei deyrnas ei hun.
I wneud iawn am ei ansyberwydd (anghwrteisi) cytuna Pwyll i gyfnewid lle ag Arawn am flwyddyn. Ar ddiwedd blwyddyn o wledda a phob hyfrydwch yn y byd paradwysaidd hwnnw (dim ond yn ddiweddarach y daethpwyd i gysylltu'r fersiwn Cymreig o'r Arallfyd Celtaidd ag Uffern) mae Pwyll yn ymladd yn lle Arawn â Hafgan ac yn ei drechu gan achub y deyrnas. Er bod Arawn wedi rhoi ei bryd a'i wedd ei hun i Bwyll, arosodd Pwyll yn ffyddlon ac ni chafodd gyfathrach â gwraig Arawn, er iddynt gysgu yn yr un gwely ac iddi ymbil arno a chwyno am ei ddiethrwch. Am fod Pwyll wedi ymddwyn mor gwrtais a bonheddig ac wedi trechu Hafgan hefyd, mae'n ennill cyfeillgarwch Arawn.
Ar ôl dychwelyd i'w deyrnas, cyfeirir at Bwyll fel 'Pwyll Pen Annwfn'. Er mwyn diolch i Bwyll mae Arawn yn rhoi anrheg o foch arbennig iddo; dyma'r moch hud mae Gwydion yn dwyn o lys Pryderi yn y Bedwaredd Gainc.
Efallai fod chwedloniaeth y tymhorau, gyda brenin yr haf yn mynd dan y ddaear yn y gaeaf, yn rhan o gefndir y chwedl. Sylwer nad oes cysylltiad amlwg rhwng y Cwn Annwn a geir mewn chwedlau gwerin diweddarach a helgwn Arawn yn y Pedair Cainc; ni chysylltir enw Arawn â Chwn Annwn chwaith. Mae Robert Graves a'i ddilynwyr yn cysylltu Arawn â'r gerdd 'Cad Goddau' yn Llyfr Taliesin, ond does dim cyfeiriad ato yn y testun ei hun.