Hanes traddodiadol
Hanes am gyfnodau cynnar sy'n seiliedig ar draddodiadau, mytholeg a chof cenedl neu bobl neilltuol yn hytrach na chofnodion hanesyddol dilys yw hanes traddodiadol.
Fel yn achos mytholeg a chwedlau, nid yw hanes traddodiadol o reidrwydd yn annilys. Mae'n gallu ymgorffori nifer o ffeithiau sy'n deillio o ffynonellau coll am hanes go iawn, neu'n cynnwys cof cenedl am ddigwyddiadau hanesyddol, wedi ei drosglwyddo ar lafar am genedlaethau. Ond mae'n cynnwys yn ogystal chwedlau o bob math, am dduwiau a gyfrifir yn frenhinoedd neu arwyr, er enghraifft, a thraddodiadau a motifau o fyd llên gwerin. Weithiau, yn nwylo llenor ymwybodol, mae hanes traddodiadol yn gallu cynnwys elfen sylweddol o ffug hanes, fel yn achos gwaith enwog Sieffre o Fynwy, yr Historia Regum Britanniae, a gyfieithwyd i'r Gymraeg fel Brut y Brenhinedd.
Ceir hanes traddodiadol yn perthyn i sawl gwlad a diwylliant, e.e. Cymru, Iwerddon, Tsieina, Tibet, a Rwsia.