Joseph Henry Wade
Joseph Henry Wade | |
---|---|
Dinasyddiaeth | Cymru |
Offeiriad Anglicanaidd ac awdur o Gymru oedd y Parchedig Joseph Henry Wade (1861 –22 Rhagfyr, 1943).[1]
Cefndir
Ganwyd Wade yng Nghasnewydd yn blentyn i Joseph Henry Wade, meistr llong a Hannah (née Atkinson) ei wraig. Cafodd ei addysgu yn Ysgol Ramadeg Trefynwy a Phrifysgol Caerdydd lle raddiodd gyda BA Prifysgol Llundain ym 1885 a Choleg Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan lle enillodd gradd dosbarth cyntaf mewn Diwinyddiaeth ym 1887.[2]
Gyrfa
Gwasanaethodd Wade fel offeiriad Eglwys Lloegr yn Altrincham yn Swydd Gaer, Kingsbury Episcopi, yng Ngwlad yr Haf a Colesford Swydd Caerloyw. Ymddeolodd o'i weinidogaeth ym 1914.
Yn ogystal a'i waith fel offeiriad bu Wade yn awdur nifer o lyfrau gan gynnwys:
- Little Guide to Somerset (1907) (ar y cyd a'i frawd George Woosung Wade D.D.)
- Little Guide to Monmouthshire (1909) (ar y cyd a'i frawd)
- Little Guide to South Wales (1913) (ar y cyd a'i frawd) [3]
- Glamorganshire (Cambridge County Geographies) (1914) [4]
- Little Guide to Herefordshire (1917) (ar y cyd a'i frawd)
- Rambles in Cornwall (1928)
- Rambles in Devon (1930)
Teulu
Priododd Alice Josephine Crompton, yn Eglwys St. Bartholomew, Altrincham ym 1893, ni fu iddynt blant
Marwolaeth
Bu farw yn Weston-super-Mare yn 82 mlwydd oed.
Cyfeiriadau
- ↑ "Joseph Henry Wade MA (1861-1943) | WikiTree FREE Family Tree". www.wikitree.com. Cyrchwyd 2019-12-09.
- ↑ "DEGREE DAY AT LAMPETER COLLEGE - The Aberystwith Observer". David Jenkins. 1887-07-02. Cyrchwyd 2019-12-09.
- ↑ "A NEW BOOK ON SOUTH WALES - The Cambria Daily Leader". Frederick Wicks. 1913-05-17. Cyrchwyd 2019-12-09.
- ↑ Wade, Joseph Henry (1914). Glamorganshire. Caergrawnt: Gwasg Brifysgol Caergrawnt.