Sirosis
Delwedd:Liver Cirrhosis.png, Cirrhosis Liver 4x.jpg, Liver Cirrhosis es.png, Liver Cirrhosis-it.png, Liver Cirrhosis-ar.png, Karaciğer sirozu.png | |
Enghraifft o'r canlynol | dosbarth o glefyd |
---|---|
Math | clefyd yr afu, cirrosis, clefyd |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cyflwr yw sirosis ble nad yw'r afu yn gweithio yn iawn oherwydd difrod tymor hir. Nodweddir y difrod hwn gan feinwe yn cael ei gyfnewid gan feinwe greithiol. Fel arfer, mae'r clefyd yn datblygu yn araf dros fisoedd neu flynyddoedd. Yn aml, nid oes symptomau yn y cyfnod cynnar. Wrth i'r clefyd waethygu, gall person ddod yn flinedig, yn wan, coslyd, gael chwyddo yng ngwaelod y coesau, datblygu clefyd melyn, cleisio'n hawdd, cael hylif yn casglu yn yr abdomen, neu ddatblygu gwaedlestri tebyg i gorynnod ar y croen. Gall y casgliad o hylif yn yr abdomen gael ei heintio'n ddigymell. Mae cymhlethdodau eraill gynnwys enseffalopathi hepatig, gwaedu o gwythiennau lledagroed yn y oesophagus neu wythiennau ystumog lledagored, neu ganser yr afu. Mae enseffalopathi hepatig yn achosi dryswch ac yn gallu arwain at anymwybyddiaeth.[1]
Achosion mwyaf cyffredin sirosis yw alcohol, hepatitis B, hepatitis C, a chlefyd afu brasterog di-alcohol.[2] Fel arfer, mae angen mwy na dau neu dri diod alcoholaidd y dydd dros gyfnod o flynyddoedd i achosi siroris alcoholaidd. Mae nifer o achosion i glefyd afu brasterog di-alcohol, gan gynnwys bod dros bwysau, clefyd y siwgr, brasterau gwaed uchel, a phwysedd gwaed uchel. Mae nifer o achosion llai cyffredin o sirosis i'w cael, gan gynnwys hepatitis hunanimíwn, primary biliary cholangitis bustlaidd cynradd, hemochromatosis, meddyginiaethau penodol, a cherrig bustl. Mae diagnosis yn seiliedig ar brofion gwaed, delweddu meddygol, a biopsi afu.
Mae rhai o achosion sirosis, megis hepatitis B, yn gallu cael eu hatal trwy frechiad. Mae triniaeth yn dibynnu yn rhannol ar yr achos sylfaenol, ond y nod yn aml yw atal gwaethygiad a chymhlethdodau. Argymhellir osgoi alcohol ym mhob achos o sirosis. Gellir trin hepatitis B ac C gyda meddyginiaethau gwrth-feirol. Gellir trin hepatitis hunanimiwn gyda meddyginiaethau steroid. Gall ursodiol fod yn ddefnyddiol os yw'r clefyd o ganlyniad i dwythellau bustl. Gall meddyginiaethau eraill fod yn ddefnyddiol ar gyfer cymhlethdodau megis chwyddo yn yr abdomen neu goesau, enseffalopathi hepatig, a gwythiennau oesophagaeal lledagored . Mewn achosion dwys o sirosis, gall trawsblannu'r afu fod yn opsiwn.
Mae tua 2.8 miliwn o bobl yn dioddef o sirosis ac arweiniodd y cyflwr at 1.3 miliwn o farwolaethau yn 2015. O'r rhain, achoswyd 348,000 gan alcohol, 326,000 gan hepatitis C, a 371,000 gan hepatitis B. Yn yr Unol Daleithiau, mae mwy o ddynion nag o fenywod yn marw o sirosis. Ceir y disgrifiad cyntaf at y cyflwr gan hippocrates yn y 5g CCC.
Cyfeiriadau
- ↑ "Cirrhosis". April 23, 2014. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 9 June 2015. Cyrchwyd 19 May 2015. Unknown parameter
|deadurl=
ignored (help) - ↑ GBD 2013 Mortality and Causes of Death, Collaborators (17 December 2014). "Global, regional, and national age-sex specific all-cause and cause-specific mortality for 240 causes of death, 1990–2013: a systematic analysis for the Global Burden of Disease Study 2013.". Lancet 385 (9963): 117–71. doi:10.1016/S0140-6736(14)61682-2. PMC 4340604. PMID 25530442. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=4340604.