Cetyn
Math | offeryn, smoking equipment |
---|---|
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae'r cetyn neu pîb neu pibell yn declyn ar gyfer ysmygu tybaco. Mae'n cynnwys tiwb hir neu fyr (gorsyn neu goes y cetyn) yn wreiddiol gyda chynhwysydd siâp cwpan (pen) ar gyfer dal y tybaco sy'n mudlosgi. Bydd y smygwr yn sugno ar y cetyn er mwyn ysmygu.
Hanes
[golygu | golygu cod]Roedd dyfeisiau tebyg i'r cetyn ar gael cyn i dybaco ddod i Ewrop o'r Byd Newydd. Defnyddiwyd gwahanol ffurf o ysmygu dail a deunydd o rhy fath er mwyn pleser neu ddefod. Roedd cetyn o fath i'w weld yn Iran gyfoes cyn o hanes modern. Roedd dyfeisiadau tebyg i'r cetyn cyfoes ar, yn aml ar ffurf tebot yn achos opiwm, yn cael eu defnyddio ers cyfnod hynafol iawn. Disgrifiodd Herodotus fel y byddai'r Scythiaid yn anadlu dail mwg llosgi yn 500 CC. Byddai'r Rhufeiniaid a'r Groegiaid hynafol yn benthyg llawer o'r "cynwysyddion" pibellog oddi ar eu cymdogion dwyreiniol a ddefnyddiwyd yn ddiweddarach gan Germaniaid, Celtiaid a llwythau Nordig.
Byddai gwahanol bobloedd cynhenid America yn smocio pib seremonïol cyn dyfodiad yr Ewropeaid. Roedd pobl y Lakota yn defnyddio pibell seremonïol o'r enw čhaŋnúŋpa. Roedd diwylliannau eraill America hefyd yn smygu baco yn gymdeithasol.[1] Mae'r planhigyn tybaco yn gynhenid i Dde America ond ymledodd i Ogledd America yn hir cyn i'r Ewropeaid gyrraedd. Cyflwynwyd i planhigyn a'r arfer i Ewrop yn y 16.
Gan nad oedd tybaco wedi cael ei gyflwyno i Ewrop tan yr 16g,[2] yn achos o "cetyn", weithiau silindrog, y tu allan i'r Amerig fel arfer yn cael eu defnyddio i ysmygu hashish (sylwedd prin a drud oedd yn tarddu o ardaloedd tu hwnt i Ewrop); opiwm a hashish yn bennaf o'r Dwyrain Canol, Canolbarth Asia ac India, lle cafodd hashish ei gynhyrchu. Bathwyd y gair opiwm yn yr Eidaleg yn yr Oesoedd Canol, yn y 14g.
Roedd cetyn wedi eu gwneud o glai yn boblogaidd iawn wedi i dybaco gael ei gyflwyno i Ewrop o'r Amerig oddeutu 1600. Gwnaeth y cetynnau cyntaf o glai gwyn (pibglai). Yn ddiweddarach, roedd yna bibellau mewn porslen, meerschaum a choed brown (gwreiddyn y rhostir, Erica arborea).
Mae yna lawer o wahanol fodelau, wedi'u rhannu'n fathau a meintiau; eto, yn gyffredinol, mae israniad.
Cetyn Cyfoes
[golygu | golygu cod]Mae'r rhain wedi deillio eu ffurf o'r modelau clasurol ac maent yn edrych ychydig yn fwy "sporty". Maent yn aml yn grwm ac mae ganddynt cyswllt ceg mwy agored. Y rhai mwyaf trawiadol yw'r 'llawrydd'; cetyn nad ydy wedi ei wneud gan beiriant neu felin naddu pren mewn ffatri ond y hytrach gan law crefftwr.
Cetyn yn Niwylliant Cymru
[golygu | golygu cod]Etymoleg ac iaith Lafar
[golygu | golygu cod]Dae'r gair Cymraeg cetyn o'r Saesneg cat ac efallai cut gan feddwl amrywiaeth o ystyron yn ymwneud â bychan, derbyn neu annwyl. Ceir y dyfyniad cofnodedig cynharaf o'r 17g. (18g.) CM 42 [21], nid oedd gronun o dryssor gantho / ond Dwy geniog a chettyn tobacco.[3] Mae'r gair pib â cofnod hŷn o'i ddefnyddio ac yn fenthyciad o'r Lladin llafar, *pīpa, ac o bosibl hefyd Saeneg pipe.[3] Gweler hefyd cetyn yma.[1]
- Taith cetyn - taith fer, hamddenol yn cymryd hyd person i ysmygu ei getyn.
- Cetyn y Tylwyth Teg - ceir sôn am "cetyn y tylwyth teg" yn ochrau Rhuthun.[4]
Caneuon
[golygu | golygu cod]Ceir cyfeiriad at 'cetyn yn ei geg' yn y gân werin, "Bachgen Bach o Dincer".[5] a genir gan sawl grŵp gwerin gan gynnwys Yr Hwntws.
Bachgen bach o dincer
yn crwydro'r hyd y wlad,
Cario'i dwls yn dacla,
Gwneud ei waith yn rhad,
Yn ei law roedd haearn
Ac ar ei gefn roedd bocs,
Pwt o getyn yn ei geg,
A than ei drwyn roedd locs
Hwiangerdd y "Bwgan Brain". Cyfeirir at 'cetyn' yn yr hwiangerdd Bwgan Brain.[6]
Dwy fraich ar led
Cetyn yn ei geg
'Trwyn hir a main
Dyma'r bwgan brain
Het ddu tad-cu
Siaced goch mam-gu
Trwyn hir a main
Dyma'r bwgan brain
Ceir hefyd band o Flaenau Ffestiniog o'r enw Twm Cetyn.
Oriel
[golygu | golygu cod]Pipe types | |||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Dolenni
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ ""Episode 11 Tobacco Pipes" by Robert Cassanello". stars.library.ucf.edu. Cyrchwyd 2016-01-11.
- ↑ Davey, Mike. "The European Tobacco Trade From the 15th to the 17th Centuries". University of Minnesota. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-11-06. Cyrchwyd 31 December 2017.
- ↑ 3.0 3.1 http://geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html
- ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-12-27. Cyrchwyd 2019-01-03.
- ↑ https://www.omniglot.com/songs/bcc/bachgenbach.php
- ↑ http://welshnurseryrhymes.wales/Gartref?cerdd=48