Neidio i'r cynnwys

Ci Pecin

Oddi ar Wicipedia
Ci Pecin
Enghraifft o'r canlynolbrîd o gi Edit this on Wikidata
Màs5 cilogram, 5.4 cilogram Edit this on Wikidata
GwladGweriniaeth Pobl Tsieina Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Ci Pecin Gwyn Brenhinol

Ci arffed sy'n tarddu o Tsieina yw Ci Pecin[1] neu'r Pecinî.[1]

Datblygodd y brîd hwn yn yr Hen Tsieina ac yn yr oes honno credir ei fod yn sanctaidd a chafodd ei gadw mewn palasau'r teulu ymerodorol. Daeth i'r Byd Gorllewinol gan luoedd Prydeinig a ysbeiliodd Palas Ymerodorol Beijing (ynghynt Pecin) ym 1860. Gelwir Ci Pecin yn "llewgi" am ei flew hir ond hefyd am ei natur annibynnol a dewr.[2]

Mae ganddo daldra o 15 i 23 cm (6 i 9 modfedd) ac yn pwyso tua 6.5 kg (14 o bwysau). Cafodd rhai Cŵn Pecin bychain iawn eu cadw gan aelodau teulu brenhinol Tsieina mewn llewys eu gwisgoedd. Mae gan Gi Pecin flew hir yn enwedig ar ei gluniau, coesau blaen, cynffon, a bysedd y traed. Mae ganddo ben llydan a gwastad, gyda chlustiau llipa a thrwyn byr a chrychlyd. Gall ei gôt o flew fod yn unlliw neu'n frith, ond ym mhob ci mae'r trwyn a'r geg yn ddu.[2]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 Geiriadur yr Academi, [Pekingese].
  2. 2.0 2.1 (Saesneg) Pekingese (breed of dog). Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 21 Medi 2014.