Bodedern
Math | pentref, cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 1,051, 1,193 |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Ynys Môn |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 935.978 ±0.001 ha, 1,932.46 ha |
Uwch y môr | 23.2 metr |
Yn ffinio gyda | Llanfair-yn-Neubwll, Bryngwran, Llanfachraeth, Bodffordd, Tref Alaw, Y Fali |
Cyfesurynnau | 53.2904°N 4.503963°W |
Cod SYG | W04000004 |
Cod OS | SH33197996 |
Cod post | LL65 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Rhun ap Iorwerth (Plaid Cymru) |
AS/au y DU | Llinos Medi (Plaid Cymru) |
Pentref a chymuned yng ngorllewin Ynys Môn yw Bodedern. Yn ôl Cyfrifiad 2011, roedd 1,016 o bobl yn byw yn y gymuned hon a 718 (sef 70.7%) o'r boblogaeth dros dair oed a hŷn yn gallu siarad Cymraeg.[1] Roedd 142 yn ddi-waith, sef 32.1% o'r rhai o fewn yr oedran priodol.
Hanes a hynafiaethau
[golygu | golygu cod]Gerllaw'r pentref roedd cartref Gruffudd Gryg, yn ôl traddodiad, a gerllaw hefyd mae Presaddfed (neu 'Prysaeddfed'), plasty fu'n noddi'r beirdd am genedlaethau. Ger prif fynedfa'r plasdy mae dwy siambr gladdu sy'n dyddio nôl i tua 3000 C.C. (gweler Presaddfed (siambr gladdu))
Ganed y nofelydd poblogaidd W. D. Owen yn Nhŷ Franan ym mhlwyf Bodedern yn 1874. Credir fod llawer o hanes lliwgar ei nofel Madam Wen yn seiliedig ar draddodiadau lleol. Yn ôl traddodiad yn ardal Bodedern, roedd ogof Madam Wen mewn hafn ar ochr Llyn Traffwll, ger y pentref.
Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol Cymru Ynys Môn 2017 ger Bodedern ar 4-12 Awst 2017.
Addysg a chwaraeon
[golygu | golygu cod]Mae yno ysgol uwchradd, sef Ysgol Uwchradd Bodedern a sefydlwyd yn 1977.
Mae C.P.D. Bodedern yn chwarae yng Nghyngrair Gwynedd.
Cyfrifiad 2011
[golygu | golygu cod]Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[2][3][4]
Adeiladau a chofadeiladau
[golygu | golygu cod]Pobl o Fodedern
[golygu | golygu cod]- Gruffudd Gryg, bardd canoloesol
- W. D. Owen, nofelydd
- Owen Hughes [1], ffermwr, gweinidog lleyg a dyddiadurwr o Dregwehelyth. Mae cofnodion amaethyddol a thywydd ei ddyddiaduron i’w gweld yma [2] yn Nhywyddiadur gwefan Llên Natur.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Cyfrifiad 2011; gwefan Saesneg "Ystadegau Cenedlaethol y DU". Adalwyd 28 Ebrill 2013.
- ↑ "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
- ↑ Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
- ↑ Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
Trefi
Amlwch · Benllech · Biwmares · Caergybi · Llangefni · Niwbwrch · Porthaethwy
Pentrefi
Aberffraw · Bethel · Bodedern · Bodewryd · Bodffordd · Bryngwran · Brynrefail · Brynsiencyn · Brynteg · Caergeiliog · Capel Coch · Capel Gwyn · Carmel · Carreglefn · Cemaes · Cerrigceinwen · Dwyran · Y Fali · Gaerwen · Glyn Garth · Gwalchmai · Heneglwys · Hermon · Llanallgo · Llanbabo · Llanbedrgoch · Llandegfan · Llandyfrydog · Llanddaniel Fab · Llanddeusant · Llanddona · Llanddyfnan · Llanedwen · Llaneilian · Llanfachraeth · Llanfaelog · Llanfaethlu · Llanfair Pwllgwyngyll · Llanfair-yn-Neubwll · Llanfair-yng-Nghornwy · Llan-faes · Llanfechell · Llanfihangel-yn-Nhywyn · Llanfwrog · Llangadwaladr · Llangaffo · Llangeinwen · Llangoed · Llangristiolus · Llangwyllog · Llanidan · Llaniestyn · Llannerch-y-medd · Llanrhuddlad · Llansadwrn · Llantrisant · Llanynghenedl · Maenaddwyn · Malltraeth · Marian-glas · Moelfre · Nebo · Pencarnisiog · Pengorffwysfa · Penmynydd · Pentraeth · Pentre Berw · Pentrefelin · Penysarn · Pontrhydybont · Porthllechog · Rhoscolyn · Rhosmeirch · Rhosneigr · Rhostrehwfa · Rhosybol · Rhydwyn · Talwrn · Trearddur · Trefor · Tregele