Fryslân
Math | Taleithiau'r Iseldiroedd |
---|---|
Enwyd ar ôl | Ffrisia |
Prifddinas | Ljouwert |
Poblogaeth | 649,944 |
Sefydlwyd | |
Anthem | De Alde Friezen |
Pennaeth llywodraeth | Arno Brok |
Cylchfa amser | UTC+01:00, UTC+2 |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Iseldireg, Ffrisieg Gorllewinol |
Daearyddiaeth | |
Sir | Yr Iseldiroedd |
Gwlad | Yr Iseldiroedd |
Arwynebedd | 5,748.74 ±0.01 km² |
Yn ffinio gyda | Noord-Holland, Groningen, Drenthe, Flevoland, Overijssel |
Cyfesurynnau | 53.2014°N 5.8°E |
NL-FR | |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | King's or Queen's Commissioner |
Pennaeth y Llywodraeth | Arno Brok |
Un o daleithiau yr Iseldiroedd yw Fryslân (Iseldireg: Friesland). Mae'n rhan o'r ardal fwy a adwaenir fel Ffrisia. Fryslân yw'r enw yn iaith gynhenhid y dalaith, Ffriseg Gorllewinol. Ers 1997, hwn yw'r enw swyddogol, ac fe'i defnyddir mewn cyhoeddiadau swyddogol Iseldireg hefyd.
Roedd poblogaeth y dalaith yn 643,000 yn 2005. Prifddinas y dalaith yw Ljouwert (Iseldireg: Leeuwarden), gyda poblogaeth o 91,817.
Yn 2004 roedd 440,000 o bobl yn siarad Ffriseg Gorllewinol yn Fryslân, tua 350,000 o'r rhain yn ei siarad fel mamiaith. Rhoddir pecyn i bob newydd-ddyfodiad i'r dalaith yn egluro'r sefyllfa ieithyddol ac yn cyfeirio at gyfleusterau i ddysgu Ffriseg.
Cynrychiolir Fryslân gan faner trawiadol sy'n cynnwys 7 pompeblêden (dail lili'r dŵr felen) a bandiau glas a gwyn croesliniol.
Dinasoedd
[golygu | golygu cod]- Leeuwarden (Ljouwert)
- Sneek (Snits)
- IJlst (Drylts)
- Sloten (Sleat)
- Stavoren (Starum)
- Hindeloopen (Hylpen)
- Workum (Warkum)
- Bolsward (Boalsert)
- Harlingen (Harns)
- Franeker (Frjentsjer)
- Dokkum (Dokkum)
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- Ried fan de Fryske Beweging (Cyngor y Mudiad Ffriseg)
Taleithiau'r Iseldiroedd | |
---|---|
Taleithiau'r Iseldiroedd | Groningen • Fryslân • Drenthe • Overijssel • Flevoland • Gelderland • Utrecht • Noord-Holland • Zuid-Holland • Zeeland • Noord-Brabant • Limburg |