Hari Rud
Math | afon |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Ghor |
Gwlad | Affganistan, Iran, Tyrcmenistan |
Cyfesurynnau | 34.613087°N 66.570355°E, 37.66152°N 60.434994°E |
Aber | Karakum Desert |
Llednentydd | Afon Kashafrud, Jamrud River |
Dalgylch | 70,600 cilometr sgwâr |
Hyd | 1,150 cilometr |
Arllwysiad | 30 metr ciwbic yr eiliad |
Afon yw Hari Rud neu Harirud (enw llawn Perseg: Rudkhaneh-ye Hari Rud), sy'n llifo 1100 km o fynyddoedd canolbarth Affganistan i Dyrcmenistan, lle mae'n cael ei llyncu gan dywod anialwch Kara-Kum. Ei nyd yw tua 500 milltir.
Mae'r afon yn tarddu yng nghadwyn Koh-i Baba, sy'n rhan o'r Hindu Kush, ac mae'n dilyn cwrs cymharol syth i gyfeiriad y gorllewin am tua 280 milltir.
Yng ngorllewin Affganistan mae'r Hari Rud yn llifo fymryn i'r de o ddinas Herat. Bu'r dyffryn o amgylch Herat yn enwog yn y gorffennol am ei ffrwythlondeb a graddfa ei amaethyddiaeth. Mae'r afon yn cwrdd ag afon Jam Rud ar safle Minaret Jam, y minaret hynafol ail dalaf yn y byd, sy'n 65 m o uchder.
Ar ôl Herat, try'r afon i'r gogledd-orllewin, ac wedyn i'r gogledd, gan ffurfio rhan ogleddol y ffin ryngwladol rhwng Affganistan ac Iran. Ymhellach i'r gogledd mae'n ffurfio rhan dde-ddwyreiniol y ffin rhwng Iran a Thyrcmenistan.
Yn Nhyrcmenistan ei hun fe'i hadnabyddir fel afon Tejen neu Tedzhen, ac mae'n llifo'n agos i ddinas Tedzhen. Mae'n ymgolli yng ngwerddon Tedzhen yn anialwch Kara-Kum.
Yn Lladin, roedd yn cael ei hadnabod fel afon Arius.