Offeryn pres
Enghraifft o'r canlynol | dosbarth o offerynnau cerdd |
---|---|
Math | offeryn chwyth |
Deunydd | pres |
Rhan o | MIMO's classification of musical instrument, Guizzi's classification of musical instruments |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Math o offeryn cerdd yw offeryn pres sy'n creu sain wrth i'r canwr chwythu ar getyn ceg gan ddirgrynu colofn o aer. Yn wir, math o offeryn chwyth yw'r offeryn pres, ond gan amlaf fe'i ddynodir yn ddosbarth ar wahân. Ymhlith yr offerynnau pres a genir yn y gerddorfa mae'r tiwba, trwmped neu utgorn, trombôn a'r corn Ffrengig.[1]
I ganu offerynnau pres chwythir i mewn i getyn ceg o siâp cwpan neu dwndis, gan gau'r gwefusau bron yn gyfan gwbl. Dirgryna'r gwefusau ac mae hyn yn ei dro yn dirgrynu colofn o aer drwy bibell neu bibau'r offeryn. Cynhyrchir gwahanol nodau drwy chwythu'n galed ac ysgafn ac drwy wasgu'r falfau. Yr offerynnau mwyaf sy'n creu'r nodau isaf, a'r rhai llai y nodau uchaf.
Swyddogaeth dirgryniadau'r gwefusau sy'n diffinio offerynnau pres: er yr enw, ni wneir pob un o'r aloi pres. Gellir eu gwneud o fetelau eraill, a gwneir rhai offerynnau traddodiadol o bren, megis y dijeridŵ a'r alpgorn. Gwnaed yr offerynnau pres hynaf o gyrn anifeiliaid. Arferai'r ethnolegydd rhoi'r enw cyffredinol "trwmped" ar bob offeryn o'r fath a wneir o bren.[2] Yn ogystal, gwneir rhai o'r chwythbrennau o bres, megis y sacsoffon.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ The Oxford Companion to Music. gol. Alisom Latham.
- ↑ (Saesneg) brass instrument. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 13 Rhagfyr 2016.