Neidio i'r cynnwys

Môr Kara

Oddi ar Wicipedia
Môr Kara
Mathmôr Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlAfon Kara Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolCefnfor yr Arctig Edit this on Wikidata
GwladBaner Rwsia Rwsia
Cyfesurynnau77°N 77°E Edit this on Wikidata
Map
Map yn dangos lleoliad Môr Kara .

Môr sy'n rhan o Gefnfor yr Arctig yw Môr Kara (Rwseg: Ка́рское мо́ре). Fe'i gwahenir iddi wrth Fôr Barents yn y gorllewin gan Gulfor Kara a Novaya Zemlya, ac oddi wrth Fôr Laptev yn y dwyrain gan y Severnaya Zemlya.

Mae Môr Kara tua 1,450 km o hyd a 970 km o led, gydag arwynebedd o tua 880,000 km². Gorchuddir ef a rhew am tua naw mis o'r flwyddyn. Mae gan ardaloedd Crai Krasnoyarsk ac Ocrwg Ymreolaethol Yamalo-Nenets arfordir eang ar lan Môr Kara.

Eginyn erthygl sydd uchod am Rwsia. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.