Swra
Enghraifft o'r canlynol | Islamic term |
---|---|
Math | pennod |
Rhan o | Y Corân |
Prif bwnc | Meccan surah, Medinan surah |
Yn cynnwys | ayah |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Rhan o gyfres ar |
---|
Arferion |
Coran · Sŵra · Sunnah · Hadith |
Sunni · Shi'a |
Astudiaethau Islamig · Celf |
Islam a chrefyddau eraill |
Cristnogaeth · Iddewiaeth |
Pennod neu adran o'r Corân, llyfr sanctaidd y Mwslemiaid yw Swra.[1] Ystyr lythrennol y gair Arabeg sûrah yw "rheng, palisâd." Er mai "pennod" yw'r gair a arferir i'w gyfieithu nid yw'r Mwslemiaid yn ei ystyried felly oherwydd eu bod yn credu bod y Corân yn gyfanwaith perffaith, heb raniadau. Ceir 114 swra yn y Coran awdurdodedig ond ym mlynyddoedd cynnar Islam ceid peth amrywiaeth yn eu nifer a'u cynnwys. Ceir tri neu ragor o "benillion" (âya) ym mhob swra. Credir eu bod wedi eu cyfansoddi naill ai ym Mecca neu ym Medina, ac fe nodir hyn ar ddechrau pob swra mewn rhai argraffiadau o'r Corân. Nid ydynt wedi eu trefnu'n gronolegol, fel yn achos llyfrau'r Beibl, ond yn hytrach yn ôl ei gynnwys.
Mae'r swra gyntaf, Al-Fâtiha, yn fath o weddi agoriadol sy'n crynhoi credo'r Mwslim. Yna daw cyfres o swrâu cymharol hir sy'n ymwneud â chyfraith a dyletswyddau. Mae gweddill y swrâu, o rif 36 Sûratu Yâ-sîn ymlaen, yn tueddu i fod yn fyrrach o lawer ac yn fwy telynegol a chyfriniol eu naws; fe'u gelwir yn Rub'u Yâ-sîn a cheir argraffiadau ohonynt ar wahân dan yr enw hwnnw. Mae enwau'r swrâu yn fymryn mwy diweddar na'r testunau eu hunain ac yn tarddu o ganrif gyntaf yr Hegira, yr oes Islamaidd. Mae ystyr rhai o'r enwau yn dywyll (rhif 7, 8, 11, 15, 20, 31, 34, 36, 46, 47, 52, 106). Egyr pob swra namyn un (rhif 9) â'r basmala, sy'n fath o weddi neu alwad ar Dduw; Bismil Lâhi r-Rahmâni r-Rahîm, "Yn Enw Duw, y Maddeuol, y Trugarhaol".
Y Swrâu yn eu trefn arferol
[golygu | golygu cod]- AL-FÂTIHA (Yr Agoriad)
- AL-BAQARA (Y Fuwch)
- AL-IMRÂNE (Teulu'r Imrân)
- AN-NISÂ (Y Merched)
- AL-MÂ'IDAH (Y Cymundeb)
- AL-AN'ÂME (Y Gwartheg)
- AL-A'RÂF
- AL-ANFÂL
- AT-TAWBAH (Yr Edifeirwch)
- YÛNUS (Jona)
- HÛD
- YÛSUF (Ioseff)
- AR-RA'D (Y Taran)
- IBRAHÎM (Abraham)
- AL-HIJR
- AN-NAHL (Y Gwenyn)
- AL-ISRÂ (Ymadael yn y Nos)
- AL-KAHF (Yr Ogof)
- MARIAM (Mair)
- TÂHÂ
- AL-ANBIYÂ (Y Proffwydion)
- AL-HAJJ (Y Bererindod)
- AL-MU'MINÛN (Y Credinwyr)
- AN-NÛR (Y Goleuni)
- AL-FURQÂN (Y Maen Prawf)
- AS-SU'ÂRÂ (Y Beirdd)
- AN-NAML (Y Morgrug)
- AL-QASAS (Y Chwedl)
- AL-'ANKABÛT (Y Pryf Copyn)
- AR-RÛM (Y Bysantiaid)
- LUQMÂN
- AS-SAJDAH (Yr Ymostyngiad)
- AL-AHZÂB (Y Pleidiau)
- SABA'
- FÂTIR (Yr Arloeswr)
- YÂ-SÎN
- AS-SÂFFÂT (Yr Angylion mewn Rheng)
- SÂD (llythyren yn yr wyddor Arabeg)
- AZ-ZUMAR (Mae'r Rhai..)
- GAFÎR (..sy'n Maddau)
- FUSSILAT (..wedi eu Nodi)
- AS SÛRAH (Yr Ymgynghoriad)
- AZ-ZUHRUF (Yr Addurnau)
- AD-DUHÂN (Y Mŵg)
- AL-JÂTIYAH (Yr Ymostyngiedig)
- AL-AHQÂF
- MUHAMMAD (Mohamed)
- AL-FATH (Yr Agorawd Ddwyfol)
- AL-HUJURÂTE (Yr Ystafelloedd)
- QÂF (llythyren yn yr wyddor Arabeg)
- AD-DÂRIYÂTE (Y Gwyntoedd sy'n Gwasgaru)
- AT-TUR
- AN-NAJOUM (Y Seren)
- AL-QAMAR (Y Lleuad)
- AR-RAHMÂN (Y Trugarhaol)
- AL-WÂQI'AH (Y Digwyddiad)
- AL-HADÎD (Yr Haearn)
- AL-MUJÂDALAH (Yr Ymddiddan)
- AL-HASR (Y Cynulliad)
- AL-MUMTAHANAH (Y Dioddefwr)
- AS-SAFF (Y Rheng)
- AL-JUMU'AH (Dydd Gwener)
- AL-MUNÂFIQÛN (Y Rhagrithwyr)
- AT-TAGÂBUN (Y Twyll)
- AT-TALÂQ (Yr Ymwahaniad)
- AT-TAHRÎM (Y Gwaharddiad)
- AL-MULK (Y Deyrnas)
- AL-QALAM (Yr Ystîl Gorsen)
- AL-HAQQÂH (Yr Hyn sydd wedi ei Gadarnhau)
- AL-MA'ÂRIJ (Llwybrau'r Esgyniad)
- NÛH (Noa)
- AL-JINN (Y Djins)
- AL-MUZZAMMIL (Yr Amwisgedig)
- AL-MUDDATTIR (Y Gorchuddiedig)
- AL-QIYÂMÂ (Yr Atgyfodiad)
- AL-INSÂN (Y Bod Dynol)
- AL-MURSALÂT (Y Gwyntoedd Olynol)
- AN-NABÂ (Y Newyddion Da)
- AN-NÂZI'ÂT (Y Rhwygwyr)
- 'ABASA (Mae ef yn Gwgu)
- AT-TAKWÎR (Y Troelli)
- AL-INFITÂR (Yr Hollti)
- AL-MUTAFFIFÎN (Y Dichellwyr)
- AL-INSIQÂQ (Y Cracio)
- AL-BURÛJ (Y Cytserau)
- AT-TARIK (A Bery Gryndod)
- AL-A'LÂ (Y Goruchel)
- AL-GÂSIYAH (Y Rhyferthwy)
- AL-FAJR (Y Wawr)
- AL-BALAD (Y Ddinas)
- AS-SHAMS (Yr Haul)
- AL-LAYL (Y Nos)
- AD-DUHÂ (Y Bore)
- AS-SARH (Y Blodeuo)
- AT-TÎN (Y Goeden Ffigys)
- AL-'ALAQ (Y Pethau sy'n Gwrthdaro)
- AL-QADR (Noson y Mawredd)
- AL-BAYYINAH (Y Dystiolaeth)
- AZ-ZALZALAH (Y Crynu)
- AL-ÂDIYÂT (Y Meirch Rhyfel)
- AL-QÂRI'ÂH (Y Syfrdanol)
- AT-TAKÂTUR (Rhodres Cyfoeth)
- AL-'ASR (Yr Amser)
- AL-HUMAZAH (Yr Athrodwr)
- AL-FÎL (Yr Eliffant)
- QURAYSH
- AL-MÂ'ÛN (Y Cymorth)
- AL-KAWTAR (Y Digonedd)
- AL-KÂFIRÛN (Yr Anffyddwyr)
- AN-NASR (Y Fuddugoliaeth)
- AL-MASAD (Y Llach)
- AL-IHLÂS (Purdeb)
- AL-FALAQ (Yr Agendor)
- AN-NÂSS (Dyn)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Geiriadur yr Academi, "surah".
Ffynonellau
[golygu | golygu cod]- Zeinab Abdelaziz (cyf.), Le Qur'ān / et la traduction en langue française du sens de ses versets (Tripoli, 2002). ISBN 9959280306
- François Déroche, Éléments d'une histoire du Coran (Paris, 2005; arg. newydd, Tunis, 2006). ISBN 9973196708
- Saïd M. Laham (cyf.), Le Saint coran[:] Rub'u Yâ-sîn (Beirut, 1995).