Neidio i'r cynnwys

Paul Hymans

Oddi ar Wicipedia
Paul Hymans
Ganwyd23 Mawrth 1865 Edit this on Wikidata
Ixelles Edit this on Wikidata
Bu farw8 Mawrth 1941 Edit this on Wikidata
Nice Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Gwlad Belg Gwlad Belg
Alma mater
  • Prifysgol Brwsel Am Ddim Edit this on Wikidata
Galwedigaethacademydd, gwleidydd, diplomydd, cyfreithegwr, cyfreithiwr Edit this on Wikidata
Swyddmember of the Chamber of Representatives of Belgium, llysgennad, Minister of Justice of Belgium, Minister of Foreign Affairs in Belgium, Minister of Foreign Affairs in Belgium, Minister of Foreign Affairs in Belgium, Minister of Foreign Affairs in Belgium, Belgian Minister of Foreign Trade Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolLiberal Party Edit this on Wikidata
PriodThérèse Goldschmidt Edit this on Wikidata
PerthnasauRobert Goldschmidt Edit this on Wikidata
Gwobr/auUwch Groes y Lleng Anrhydedd, Uwch Groes Urdd y Goron, Urdd yr Eryr Gwyn, Uwch Groes Rhosyn Gwyn y Ffindir, Knight Grand Cross of the Order of Vasa, Urdd y Tair Seren, Dosbarth 1af, Grand Cross of the Order of the Star of Romania, Uwch Cordon Urdd Leopold, Uwch Groes Urdd y Condor o'r Andes, Order of Prince Danilo I, 1st class, Nishan Mohamed Ali, Order of the Star of Ethiopia, Uwch Croes Urdd Siarl III, Marchog Fawr Groes yn Urdd Llew yr Iseldiroedd, Urdd Adolphe o Nassau, Marchog Uwch Groes Urdd yr Hebog, Prif Ruban Urdd y Wawr, Uwch Groes Urdd Haul Periw, Marchog Croes Uwch Urdd Sant Olav, Uwch Groes Urdd Crist (Portiwgal), Knight Grand Cross of the Order of the White Eagle, Marchog Uwch Groes Urdd Sant Grigor Fawr, Knight Grand Cross of the Order of Saint Stephen of Hungary, Marchog Croes Fawr Urdd San Fihangel a San Siôr, Marchog Uwch Groes Urdd y Seintiau Maurice a Lasarus, Urdd dros ryddid, Order of Skanderbeg, Chevalier de la Légion d'Honneur, Urdd Sant Steffan o Hwngari, Urdd y Dannebrog Edit this on Wikidata

Roedd Paul Louis Adrien Henri Hymans, neu'n fwy cyffredin Paul Hymans (Ganer Ixelles/Elsene 23 Mawrth, 1865 - marw, Nice, 8 Mawrth 1941) yn wleidydd o Wlad Belg a oedd yn gysylltiedig â'r Blaid Ryddfrydol. Ef oedd ail Lywydd Cynghrair y Cenhedloedd, a dychwelodd i wasanaethu fel Llywydd yn y blynyddoedd 1932-33.

Daeth yn gyfreithiwr a darlithydd ym Mhrifysgol Rydd Brwsel. Fel gwleidydd penodwyd yn Weinidog Materion Tramor Gwlad Belg o 1918 tan 1920 (ac eto o 1927 i 1935), yn Weinidog Cyfiawnder o 1926 i 1927, ac yn aelod o Cyngor y Gweinidogion o 1935 i 1936 Ym 1919, ynghyd â Charles de Broqueville ac Emile Vandervelde, cyflwynodd bleidlais gyffredinol i bob dyn (dyn, pleidlais) ac addysg orfodol.

Wedi'r Rhyfel Mawr

[golygu | golygu cod]

Ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf, bu'n cynrychioli Gwlad Belg yng Nghynhadledd heddwch Paris, 1919-1920. Daeth niwtraliaeth Gwlad Belg i ben a daeth y cyntaf yn y ciw i dderbyn iawndal gan yr Almaen am y Rhyfel. Serch hynny, dim ond darn bychan o dir Almaenig yr enillodd Gwlad Belg wedi'r Rhyfel a gwrthodwyd ei galwad am i'r cyfan o Lwcsembwrg a rhan o'r Iseldiroedd gael eu gwobrwyo i'r wlad, ond fe enillodd Gwlad Belg reolaeth mandad dros drefeigaethau Almaenig Rwanda a Burundi yng Nghanolbarth Affrica.

Helpodd Paul Hymans ffurfio undeb tollau Gwlad Belg a Lwcsembwrg (Undeb Economaidd Gwlad Belg-Lwcsembwrg) yn 1921 (a barhaodd nes 1972 a'i ddiwedaru eto yn 1982 a thrachefn yn 1992) a chwaraeodd ran bwysig yn y broses o negodi Cynllun Dawes ym 1924. Yn 1928, llofnododd y Cytundeb Briand-Kellogg ar gyfer Gwlad Belg.

Rhwng 1920 ac 1921 ac o 1932 hyd 1933 bu'n Llywydd Cynghrair y Cenhedloedd ac yn 1914 fe'i benodwyd yn weinidog Gwladol. O 1924 i 1925, o 1927 i 1934 ac o 1934 i 1935 yr oedd unwaith eto'n Weinidog Materion Tramor, o 1926 i 1927 yn Weinidog Cyfiawnder ac o 1935 hyd 1936 Gweinidog Heb Bortffolio. Fel Gweinidog Tramor cwblhaodd gytundeb milwrol gyda Ffrainc

Roedd yn Brotestant, yn aelod o'r Seiri Rhyddionsaer maen, ac yn aelod o gyfrinfa Les Amis Philanthropes yn Grand Orient Belgique ym Mrwsel.

Claddwyd Paul Hymans ym mynwent Ixelles ym Mrwsel.

Hymans a Mudiad Cenedlaethol Fflemeg

[golygu | golygu cod]

Roedd Hymans yn elyniaethus i'r Frontbeweging (Mudiad y Ffrynt) mudiad a dyfwyd gan ddeallusion Fflemeg yn ystod y Rhyfel Mawr oedd yn galw am hawliau ieithyddol, cyfansoddiadol a diwylliannol i siaradwyr Iseldireg Fflandrys. Roedd hefyd yn gwrthwynebu amnest ar gyfer gweithredwyr, rhyddhau August Borms (oedd o blaid cydweithio gyda'r Almaenwyr i ennill hawliau cenedlaethol i'r Fflemiaid). Roedd Hymens yn erbyn gwireddu'r Minimumprogram Fflemaidd - sef y galwadau mwyaf sylfaenol i'r iaith ac hunaniaeth Fflemeg yng Nglwad Belg, sef, rhaglen van Cauwelaert´s o statws uniaith Iseldireg i Fflandrys; a pheth hunanlywodraeth i Fflandrys.[1][2]

Paul Hymans a Chymru

[golygu | golygu cod]

Ymatebodd Hymans i Neges Heddwch ac Ewyllus Da Cymru i'r Byd 1925 a drefnwyd gan Gwilym Davies ac Undeb Cymru o Gynghrair y Cenhedloedd.[3] a sydd, ers yr 1950au, yn cael eu drefnu gan yr Urdd.

Dolenni

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-05-05. Cyrchwyd 2019-05-05.
  2. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-08-01. Cyrchwyd 2019-05-05.
  3. https://www.casgliadywerin.cymru/items/502490