Neidio i'r cynnwys

Ysgyfarnog

Oddi ar Wicipedia
Ysgyfarnog
Ysgyfarnog, Mynydd Hiraethog, Cymru
Enghraifft o'r canlynoltacson Edit this on Wikidata
Safle tacsongenws Edit this on Wikidata
Rhiant dacsonLeporidae Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mamal bychan pedair coes ydy'r ysgyfarnog (neu sgwarnog. Lladin: Lepus europaeus). Gelwir sgwarnog iau na blwydd oed yn lefran. Gall redeg mor gyflym â 45 milltir yr awr.

Yn wahanol i'r cwningen, mae'r sgwarnog yn byw ar wyneb y tir yn hytrach nac o dan y ddaear mewn ffau. Maent yn byw naill ai ar ben eu hunain neu mewn parau. Gellir eu bwyta, er nad oes llawer o saim yn eu cig ac fel arfer cânt eu rhostio.

Cymru: perthynas â phobl

[golygu | golygu cod]
  • Ceir cyfeiriadau niferus mewn chwedlau, e.e. yn Chwedl Taliesin trodd Gwion Bach yn ysgyfarnog i ddianc rhag Ceridwen, a chafodd ysgyfarnog loches rhag yr helfa ym mhlygion gwisg Melangell. Cofnododd Gerallt Gymro, yn 1188, y goel y gallasai gwrach droi'n ysgyfarnog i ddwyn llaeth y gwartheg a cheir amryw fersiwn leol ohoni o'r 19g. Dehonglid y modd y rhedai ysgyfarnog i olygu lwc, anlwc, rhybudd neu farwolaeth ac o'i gweld dylsai gwraig feichiog orchuddio ei cheg rhag i'w phlentyn gael ei eni â thaflod y geg yn hollt.
  • Arferid ei hela â milgwn neu ei dal mewn “rhwyd gae” i wneud stiw (neu gawl) blasus. Enwau eraill arni yw: ceinach, pry. Cyfeirir at 'hela'r pry' yn y gân werin “Bonheddwr Mawr o'r Bala”.[1]
  • Cyflwynwyd yr ysgyfarnog fynydd (L.timidus) o'r Alban i ucheldiroedd Eryri a'r Canolbarth yn yr 19g. Mae'n ddigon posib bod nifer fechan o'u disgynyddion yn dal ar y Carneddau hyd heddiw.
  • Dyma hanesyn bach gan Wil Williams wedi ei ysgrifennu mewn iaith byw a llafar Sir Fôn tua 2010:
“Cerddad oeddwn i ar hyd llwybr cyhoeddus yn ardal Bodorgan ‘ma pan welais i sgwarnog yn isda ar ei din ar y cae – golygfa nid anamal yn y cae arbennig yma. Pen dim dyma ‘na sgwarnog arall yn rhedag ati, a dyma’r ddwy’n dechra rhedag ar ôl ei gilydd yn igam ogam nes iddy nhw fynd o’r golwg dros a thu ôl i glawdd pridd isal. Es yn fy mlaen at y giat mochyn ac aros yno i sbio o’nghwmpas. Yn sydyn, sylwi bod un sgwarnog reit wrth fy ymyl – o fewn dwy neu dair llath i mi - yn symud, stopio, symud, stopio. Wedyn daeth reit at fy nrhaed - o’n i’n meddwl ei bod am fynd heibio fi, ond symyd i ffwrdd, yn rhadlon nath hi nes i mi golli ei gweld am iddi fynd i ganol llwyni o eithin. Toedd yna ddim tywysog yn ei hela a toedd ‘na ddim hogan ddel hefo sgert laes wrth fy ochr i chwaith! [Cyfeiriad at Felangell a Brochfael Ysgythrog]. Es led cae yn fy mlaen, bron at yr ail giat mochyn, sy’n arwain at y trydydd cae, lle dw i wedi gweld sgwarnogod yno o’r blaen hefyd. Gwrando oeddwn i ar delor yr hesg, troellwr bach (medru ei glwed o pan mae o’n canu’n weddol agos i mi) a bras y cyrs yn canu, a sbio ar ffau pry cop. Roedd y pry cop wedi medru plygu deilen gellesg fel stwffwl ben-ucha’n isa, a’i ffau fel cwt Nissan yn y plygiad. Myn dian i, sylweddoli bod y sgwarnog wrth fy yml i eto – o fewn llathan deu ddwy i mi! Symyd, stopio a wedyn symyd yn rhadlon oddi wrtha i i’r brwyn a’r tyfiant. Os gwn i pa mor aml mae hyn yn digwydd a faint arall sydd wedi cael yr un profiad? Ai ar ôl i rhywun gael profiad fel hyn y daeth chwedl Pennant Melangell i fodolaeth tybed?”[2]

Llenyddiaeth

[golygu | golygu cod]
Y sgwarnog Ewropeaidd

Cerdd eiconig R. Williams- Parry i’r sgwarnog. Tybir iddi gyfeirio at beilonnau sy’n croesi dyffryn Abergwyngregin (“rhwng Llanllechid a Llanrwst”) heibio’r “Waun” yn y cwm hwnnw.

Y Peilon
Tybiais pan welais giang o hogiau iach
Yn plannu’r peilon ar y drum ddi-drwst
Na welwn mwy mo’r ysgyfarnog fach,
Y brid sydd rhwng Llanllechid a Llanrwst.
Pa fodd y gallai blwyfo fel o’r blaen
Yn yr un cwmwd á’r ysgerbwd gwyn?
A rhoi ei gorff i orffwys ar y waun
Dan yr un wybren a’i asennau syn?
Ba sentimentaleiddiwch! Heddiw’r pnawn,
O’r eithin wrth ei fon fe wibiodd pry’
Ar garlam igam-ogam hyd y mawn,
Ac wele, nid oedd undim ond lle bu;
Fel petai’r llymbar llonydd yn y gwellt
Wedi rhyddhau o’i afal un o’i fellt

R. Williams-Parry

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Bonheddwr Mawr o'r Bala", gwefan Hwyangerddi a Chaneuon Eraill i Blant; adalwyd 16 Gorffennaf 2022
  2. Y llun a’r hanes gan Wil Williams ym Mwletin Llên Natur rhifyn 40