Our Future Health

Let’s prevent disease together

Atal afiechyd gyda’n gilydd

We’re bringing together up to five million people to develop new ways to prevent, detect and treat diseases.
Rydym ni’n dod â hyd at bum miliwn o bobl at ei gilydd i ddatblygu ffyrdd newydd o atal, canfod a thrin clefydau.

Helping everyone live longer and healthier lives

Helpu pawb i fyw’n hirach ac yn iachach

Today, millions of people spend many years of their life in poor health, suffering from common diseases such as dementia, cancer, diabetes, heart disease and stroke. Too often, we detect and treat diseases only when patients start showing symptoms. Our goal is to revolutionise the way we fight disease by collecting information from millions of volunteers across the UK. Together we can help researchers find ways to prevent, detect and treat diseases earlier.

Y dyddiau hyn, mae miliynau o bobl yn treulio blynyddoedd o’u bywydau mewn gwaeledd, yn dioddef o glefydau cyffredin fel dementia, canser, diabetes, clefyd y galon, a strôc. Yn rhy aml, dim ond pan fydd cleifion yn dechrau dangos symptomau fyddwn ni’n mynd ati i ganfod a thrin clefydau. Ein nod yw ceisio chwyldroi’r ffordd rydym yn mynd i’r afael ag afiechyd, drwy gasglu gwybodaeth gan filiynau o wirfoddolwyr ar hyd a lled y DU. Gyda’n gilydd, gallwn helpu ymchwilwyr i ddod o hyd i ffyrdd o atal, canfod a thrin clefydau yn gynt.

Video
Fideo

The UK’s largest ever health research programme

Y rhaglen ymchwil iechyd fwyaf erioed yn y DU

Our Future Health is building a community of volunteers to create an incredibly detailed picture of the nation’s health. Watch this video to learn more about how we can help prevent disease together.

Mae Our Future Health yn datblygu cymuned o wirfoddolwyr er mwyn creu darlun manwl iawn o iechyd y genedl. Gwyliwch y fideo hwn i ddysgu mwy am sut gallwn ni helpu i atal afiechyd gyda’n gilydd.

How to become a volunteer

Sut i wirfoddoli

Signing up is straightforward and doesn’t take too long. We’ll guide you through the process, and you can opt out at any time.

When you join you will be offered information about your own health, including your blood pressure and cholesterol levels. In the future you will also be offered information about your risk of some diseases.
Mae’n hawdd cofrestru ac nid yw’n cymryd llawer o amser. Byddwn yn eich tywys drwy’r broses a gallwch dynnu’n ôl ar unrhyw adeg.

Pan fyddwch chi’n ymuno, cynigir gwybodaeth am eich iechyd i chi, gan gynnwys eich pwysedd gwaed a’ch lefelau colestrol. Yn y dyfodol, cynigir gwybodaeth i chi am eich risg o gael rhai clefydau hefyd.

Read and sign a consent form

Darllen a llofnodi ffurflen cydsyniad

We ask you to confirm that you agree to take part in our programme. We also ask your permission to securely access, store and link to health-related records about you, to maintain an accurate picture of your health.
Rydym yn gofyn i chi gadarnhau eich bod yn cytuno i gymryd rhan yn ein rhaglen. Rydym hefyd yn gofyn am eich caniatâd i fynd ati’n ddiogel i gael gafael ar gofnodion sy’n ymwneud â’ch iechyd, a’u storio – er mwyn cael darlun manwl gywir o’ch iechyd.

Fill in a questionnaire

Llenwi holiadur

We ask you to complete a questionnaire about your lifestyle and health. The questionnaire is separated into sections, and you don’t have to complete it all at once. You do not have to answer every question if you do not want to.
Rydym yn gofyn i chi lenwi holiadur am eich iechyd a’ch ffordd o fyw. Mae’r holiadur wedi ei rannu’n adrannau, a does dim rhaid i chi ei lenwi i gyd ar unwaith. Does dim rhaid i chi ateb pob cwestiwn os nad ydych chi’n dymuno gwneud hynny.

Book an appointment

Trefnu apwyntiad

We ask you to attend an appointment at a local clinic to provide a blood sample and have some physical measurements taken, including your blood pressure and cholesterol levels.
Rydym ni’n gofyn i chi fynd i glinig lleol i roi sampl gwaed ac i gymryd mesuriadau sylfaenol, gan gynnwys eich pwysedd gwaed a’ch lefelau colestrol.

Everyone has something unique to give

Mae gan bawb rywbeth unigryw i’w gynnig

We’re building a diverse community of volunteers that truly reflects the UK’s population, so that we can identify differences in how diseases begin and progress in people from different backgrounds. By ensuring that a range of people take part in Our Future Health, we can make discoveries that benefit everyone.

Rydym ni’n datblygu cymuned amrywiol o wirfoddolwyr sy’n cynrychioli poblogaeth y DU yn deg, er mwyn i ni allu adnabod gwahaniaethau rhwng sut mae clefydau’n dechrau ac yn datblygu mewn pobl o wahanol gefndiroedd. Drwy sicrhau bod ystod eang o bobl yn cymryd rhan yn Our Future Health, gallwn ddarganfod pethau a fydd yn fuddiol i bawb.

Video
Fideo

How we protect your data

Sut rydym yn diogelu eich data

When you join Our Future Health, your data is stored and managed according to strict security standards.

Pan fyddwch chi’n ymuno ag Our Future Health, caiff eich data ei storio a’i reoli yn unol â safonau diogelwch llym.

How researchers use Our Future Health

Sut mae ymchwilwyr yn defnyddio Our Future Health

The scale, depth and detail of Our Future Health make it a world-leading resource for health research. Researchers can apply to study the de-identified information in a highly secure online data storage system. They’ll use the data to make new discoveries that benefit people from all backgrounds.

Mae graddfa, dyfnder a manylder Our Future Health yn ei wneud yn adnodd blaenllaw ar gyfer ymchwil iechyd. Gall ymchwilwyr wneud cais i astudio’r wybodaeth ddienw mewn system storio data hynod ddiogel ar-lein. Byddant yn defnyddio’r data i wneud darganfyddiadau newydd a fydd yn fuddiol i bobl o bob cefndir.

Who we partner with – and why

Pwy rydym yn gweithio mewn partneriaeth â nhw – a pham

At Our Future Health, partnerships contribute to our mission of helping people live healthier lives for longer. We’re working closely with UK healthcare authorities and the NHS.
We are also partnered with charities and industry, who are providing expertise and part of the funding needed to set up and deliver our programme.

Yn Our Future Health, mae partneriaethau yn cyfrannu at ein cenhadaeth o helpu pobl i fyw bywydau iachach am amser hirach. Rydym yn gweithio’n agos gyda’r GIG ac awdurdodau gofal iechyd yn y DU. Rydym hefyd yn gweithio mewn partneriaeth ag elusennau a diwydiant, sy’n darparu arbenigedd a chyfran o’r cyllid sydd ei angen i sefydlu a chyflawni ein rhaglen.

“I joined Our Future Health to give back for all the treatment and care I received.”

“Fe wnes i ymuno ag Our Future Health i roi rhywbeth yn ôl am yr holl driniaethau a gofal ges i.”

Joanne Foden speaks about the cancer treatment that saved her life – and led to her volunteering for Our Future Health.

Mae Joanne Foden yn siarad am y driniaeth canser a achubodd ei bywyd – ac a arweiniodd ati’n gwirfoddoli ag Our Future Health.