195 CC
Gwedd
3g CC - 2g CC - 1g CC
240au CC 230 CC 220au CC 210au CC 200au CC - 190au CC - 180au CC 170au CC 170au CC 160au CC 150au CC
200 CC 199 CC 198 CC 197 CC 196 CC - 195 CC - 194 CC 193 CC 192 CC 191 CC 190 CC
Digwyddiadau
[golygu | golygu cod]- Y blaid yn ninas Carthago sy'n gwrthwynebu diwygiadau Hannibal yn hysbysu Gweriniaeth Rhufain ei fod yn annog Antiochus III, brenin yr Ymerodraeth Seleucaidd, i ryfela yn erbyn Rhufain. Mae Rhufain yn mynnu fod y Carthaginiaid yn trosglwyddo Hannibal yn garcharor iddynt; ond mae'n osgoi hyn trwy adael Carthago.
- Aiff Hannibal i lys Antiochus III, lle mae'n dod yn gynghorydd milwrol i'r brenin, gan waethygu'r berthynas rhwng Antiochus a Rhufain.
- Cytundeb Lysimachia yn rhoi diwedd ar y rhyfel rhwng Antiochus III a'r Aifft. Mae Antiochus yn cael meddiant ar dde Syria
- Brwydr Gythium, rhwng Sparta a Cynghrair Achaea, Rhodos, Pergamum a Gweriniaeth Rhufain. Pan mae'r proconswl Rhufeinig Titus Quinctius Flamininus yn cyrraedd gyda byddin ychwanegol, mae Nabis, tyrannos Sparta, yn gorfod encilio o Gythium, ac yn ddiweddarach yn y flwyddyn yn ildio i'r cyngheiriaid.
- Aristophanes o Byzantium, ysgolhaig Groegaidd, yn dod yn brif lyfrgellydd Llyfrgell Alexandria
Genedigaethau
[golygu | golygu cod]- Mithridates I, brenin Parthia
- Publius Terentius Afer, dramodydd comig Rhufeinig (tua'r dyddiad yma)
Marwolaethau
[golygu | golygu cod]- Gaozu, ymerawdwr Han (neu Gao), ymerawdwr cyntaf Brenhinllin Han yn Tsieina