Neidio i'r cynnwys

Coeden Jesse

Oddi ar Wicipedia
Coeden Jesse
Enghraifft o'r canlynolthema mewn celf Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae Coeden Jesse (hefyd Pren Jesse) yn fotiff cyffredin mewn eiconograffeg Gristnogol rhwng y 12fed a'r 15fed ganrif. Mae'n cynrychioli llinach rhwng Jesse, tad y Brenin Dafydd, ac Iesu Grist fel y mae'n ymddangos yn yr Ysgrythur.

Mae darluniau o Goeden Jesse yn seiliedig ar adnod Eseia 11:1 yn y beibl:

"Yna y daw allan wialen o gyff Jesse; a Blaguryn a dyf o’i wraidd ef."[1]

Yn ffurf fwyaf nodweddiadol y ddelwedd mae Jesse yn gorwedd neu'n cysgu wrth y gwaelod. O'i ystlys y mae boncyff coeden neu winwydden yn esgyn, ei changhennau yn troelli ar bob ochr. Ar y canghennau mae ffigurau sy'n cynrychioli hynafiaid Iesu. Mae'r boncyff fel arfer yn esgyn yn unionsyth i'r Forwyn Fair ac yna Iesu ar y brig. Mae nifer y ffigurau eraill a ddarlunnir yn amrywio'n fawr, yn dibynnu ar faint o le sydd ar gael ar gyfer y dyluniad. Ar brydiau mae pob un o'r 43 cenhedlaeth rhwng Jesse a Iesu sy'n cael eu rhestru yn yr Efengyl yn ôl Luc yn cael eu darlunio, ond fel arfer mae'r detholiad yn llawer llai. Mae Dafydd a Solomon fel arfer yn cael eu cynnwys.

Gall y ddelwedd ymddangos mewn sawl cyfrwng, megis llun mewn llawysgrif goliwiedig, murlun, cerflun, neu ffenestr liw.

Llyfryddiaeth

[golygu | golygu cod]
  • Arthur Watson, The Early Iconography of the Tree of Jesse (Llundain: Oxford University Press, 1934)
  • Étienne Madranges, L'Arbre de Jessé, de la racine à l'ésprit (Paris: Bibliothèque des Introuvables, 2007)
  • Susan L. Green, Tree of Jesse Iconography in Northern Europe in the Fifteenth and Sixteenth Centuries (Efrog Newydd: Routledge, 2019)

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Bible Gateway passage: Eseia 11 - Beibl William Morgan". Bible Gateway (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-10-17.