Cabaret (ffilm)
Gwedd
Poster y Ffilm | |
---|---|
Cyfarwyddwr | Bob Fosse |
Cynhyrchydd | Cy Feuer |
Ysgrifennwr | Drama: Joe Masteroff Straeon: Christopher Isherwood Sgript: Jay Allen |
Serennu | Liza Minnelli Michael York Joel Grey |
Dylunio | |
Cwmni cynhyrchu | Allied Artists (UDA) ABC Pictures (tu allan i'r UDA) |
Dyddiad rhyddhau | 13 Chwefror 1972 |
Amser rhedeg | 124 munud |
Gwlad | Unol Daleithiau |
Iaith | Saesneg Almaeneg Hebraeg |
Ffilm gerdd Americanaidd o 1972 ydy Cabaret. Cyfarwyddwyd y ffilm gan Bob Fosse ac mae'n serennu Liza Minnelli, Michael York a Joel Grey. Lleolwyd y ffilm ym Merlin yn ystod Gweriniaeth Weimar ym 1931, yng nghysgod twf y Blaid Natsïaidd.
Seiliediwyd y sgript gan Jay Allen ar y sioe gerdd lwyfan o'r un enw gan John Kander, Fred Ebb, a Joe Masteroff, a oedd yn ei dro yn seiliedig ar y ddrama o 1951 I Am a Camera gan John Van Druten a'r nofel Goodbye to Berlin gan Christopher Isherwood a gyhoeddwyd yn 1939.