Gemau'r Gymanwlad 1978
Enghraifft o'r canlynol | digwyddiad aml-chwaraeon |
---|---|
Dyddiad | 1978 |
Dechreuwyd | 3 Awst 1978 |
Daeth i ben | 12 Awst 1978 |
Cyfres | Gemau'r Gymanwlad |
Lleoliad | Edmonton |
Yn cynnwys | badminton at the 1978 Commonwealth Games |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
11fed Gemau'r Gymanwlad | |||
---|---|---|---|
Campau | 128 | ||
Seremoni agoriadol | 3 Awst | ||
Seremoni cau | 12 Awst | ||
Agorwyd yn swyddogol gan | Elizabeth II | ||
|
Gemau'r Gymanwlad 1978 oedd yr unfed tro ar ddeg i Gemau'r Gymanwlad gael eu cynnal a'r tro cyntaf i'r teitl Gemau'r Gymanwlad gael ei ddefnyddio. Edmonton, Alberta,Canada oedd cartref y Gemau rhwng 3 - 12 Awst. Daeth y bleidlias i gynnal y Gemau yn Edmonton yn ystod Gemau Olympaidd 1972 ym München gydag Edmonton yn sicrhau 36 pleidlais a Leeds yn cael 10.
Cafwyd boicot o'r gemau gan Nigeria mewn protest wedi i dîm Rygbi'r Undeb Seland Newydd ymweld â De Affrica, oedd â system apartheid, ym 1976. Yn dilyn y daith ddadleuol, cafwyd boicot o Gemau Olympaidd 1976 ym Montreal, Canada, gan 28 o wledydd Affrica. Arweiniodd y boicot ym Montreal at benaethiad y Gymanwlad yn arwyddo Cytundeb Gleneagles ym 1977 fyddai'n annog cymdeithasau chwaraeon i beidio gwneud cysylltiadau chwaraeon â De Affrica[1]. Er gwaethaf y cytundeb, penderfynodd Nigeria gadw draw rhag y Gemau yn Edmonton.
Ymunodd athletwyr Bangladesh, Cyprus, Sant Kitts-Nevis, Ynysoedd Caiman ac Ynysoedd Turks a Caicos â'r Gemau am y tro cyntaf ac ychwanegwyd Gymnasteg i'r rhestr o gampau.
Chwaraeon
[golygu | golygu cod]Timau yn cystadlu
[golygu | golygu cod]Cafwyd 46 tîm yn cystadlu yng Ngemau'r Gymanwlad, 1978 gyda Bangladesh, Cyprus, Sant Kitts-Nevis, Ynysoedd Caiman ac Ynysoedd Turks a Caicos yn ymddangos am y tro cyntaf.
Tabl Medalau
[golygu | golygu cod]Safle | Cenedl | Aur | Arian | Efydd | Cyfanswm |
---|---|---|---|---|---|
1 | Canada | 45 | 31 | 33 | 109 |
2 | Lloegr | 27 | 27 | 33 | 87 |
3 | Awstralia | 24 | 33 | 27 | 84 |
4 | Cenia | 7 | 6 | 5 | 18 |
5 | Seland Newydd | 5 | 6 | 9 | 20 |
6 | India | 5 | 5 | 5 | 15 |
7 | Yr Alban | 3 | 6 | 5 | 14 |
8 | Jamaica | 2 | 2 | 3 | 7 |
9 | Cymru | 2 | 1 | 5 | 8 |
10 | Gogledd Iwerddon | 2 | 1 | 2 | 5 |
11 | Hong Cong | 2 | 0 | 0 | 2 |
12 | Maleisia | 1 | 2 | 1 | 4 |
13 | Ghana | 1 | 1 | 1 | 3 |
Gaiana | 1 | 1 | 1 | 3 | |
15 | Tansanïa | 1 | 1 | 0 | 2 |
16 | Trinidad a Tobago | 0 | 2 | 2 | 4 |
Sambia | 0 | 2 | 2 | 4 | |
18 | Bahamas | 0 | 1 | 0 | 1 |
Papua Gini Newydd | 0 | 1 | 0 | 1 | |
20 | Manu Samoa | 0 | 0 | 3 | 3 |
21 | Ynys Manaw | 0 | 0 | 1 | 1 |
Cyfanswm | 128 | 129 | 138 | 395 |
Medalau'r Cymry
[golygu | golygu cod]Roedd 75 aelod yn nhîm Cymru.
Medal | Enw | Cystadleuaeth | |
---|---|---|---|
Aur | Berwyn Price | Athletau | 110m Dros y clwydi |
Aur | John Burns | Codi Pwysau | 100 kg |
Arian | William Watkins | Saethu | Calibr bychan |
Efydd | Jeff Bryce | Codi Pwysau | 100 kg |
Efydd | Anthony Feale | Bocsio | Pwysau Welter |
Efydd | John Russell Evans | Bowlio Lawnt | Senglau |
Efydd | Ray Williams a James Morgan |
Bowlio Lawnt | Parau |
Efydd | Ellis Stanbury Gwyn Evans Ian Sutherland a John Thomson |
Bowlio Lawnt | Pedwarawd |
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-07-28. Cyrchwyd 2013-09-19.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- (Saesneg) Gwefan swyddogol Gemau'r Gymanwlad Archifwyd 2008-07-23 yn y Peiriant Wayback
- (Saesneg) Cyngor Gemau Gymanwlad Cymru
Rhagflaenydd: Christchurch |
Gemau'r Gymanwlad Lleoliad y Gemau |
Olynydd: Brisbane |