Neidio i'r cynnwys

Derrig

Oddi ar Wicipedia
Derrig
Y Derrig yn Svalbard. Llun gan Alun Williams
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Ddim wedi'i restru: Angiosperms
Ddim wedi'i restru: Eudicots
Ddim wedi'i restru: Rosids
Urdd: Rosales
Teulu: Rosaceae
Genws: Dryas
Rhywogaeth: D. octopetala
Enw deuenwol
Dryas octopetala
L.

Mae'r Derrig (Dryas octopetala) yn blanhigyn blodeuol, Arctic–alpaidd, sy'n perthyn i deulu'r rhosod. Tyf ar ffurf matiau bytholwyrdd sy'n gallu bod yn eang iawn.

Yng Nghymru, prin iawn ydyw - yn gyfyngiedig i ddau gwm, ond ceir gormodedd ohono yn tyfu ar y galchfaen yn ardal y Burren, Swydd Clare, Iwerddon.

Arferai fod yn llawer iawn mwy cyffredin ar Ynys Prydain yn ystod Oes y Rhew, ond erbyn heddiw mae wedi ei gyfyngu i lethrau mynyddoedd uchel yng Nghymru a Lloegr. Mae'n tyfu mewn ambell lecyn ar arfordir yr Alban lle mae'r cynefin yn addas.

Cyfnodau rhewlifol y Derig

[golygu | golygu cod]

Fe roes ei enw i ddau gyfnod cymharol fyr o ail ymledu'r rhew ar ôl i'r prif gyfnodau rhewlifol ddod i ben[1]

Yn dilyn diwedd y Late Glacial Maximum [yr Oes Iâ go iawn] tua 18kya (18 mil o flynyddoedd yn ôl), roedd cyfnod cynnes ym Mhrydain gyda phaill coed mewn gwaddodion brown organic mewn llynnoedd yn dangos bod coedwigoedd yn gyffredin. Tymheredd cyfartalog yn yr haf oedd 17C [nid annhebyg i heddiw]. Tua 13kya mi oerodd yn sydyn iawn yng ngogledd Ewrop, a dyma ddechrau cyfnod y Dryas Diweddar (Younger Dryas). Gwelwn ym Mhrydain yn y cyfnod hwn waddodion o glai a silt llwyd ymhobman. Ond erbyn hynny roedd olion paill coed wedi diflannu a phaill rhywogaethau’r Arctig fel Dryas octopetala wedi cymryd eu lle. Tymheredd cyfartalog erbyn hynny yn yr haf oedd 10C (tebyg i ogledd Siberia heddiw) ac yn y gaeaf -20C. Roedd permafrost yng ngogledd Iwerddon, yr Alban a gwledydd Llychlyn - gwyddwn hyn oherwydd olion pingos. Ymledodd rhew parhaol unwaith eto yn ucheldir yr Alban.

Yn ystod y Dryas Diweddar roedd ymyl yr ardal iasoer yma (y Ffrynt Polar) yn ymestyn o gyffiniau de Newfoundland i ogledd Portiwgal (dyma derfyn deheuol arferol mynyddoedd iâ [icebergs] yn y môr; heddiw mae'r terfyn yn ymestyn o ogledd Newfoundland i ogledd Gwlad yr Ia.
Fe barodd y cyfnod oer hwn am tua 1200 mlynedd, dim ond 1200 mlynedd. Gorffennodd y Dryas Diweddar oer yn sydyn iawn 11.7kya pan fu gwresogi syfrdanol, ac fe gododd tymheredd yr Arctig i fod 2C yn fwy na heddiw. Parhaodd y cyfnod cynnes yma hyd at 9kya yn Alaska, a than yn ddiweddarach ar draws canol Canada (lleoliad llen iâ Laurentia) a gogledd Ewrop.
Beth achosodd y newidiadau sydyn syfrdanol hyn felly? Mwy na thebyg, newidiadau yn y Milankovicz cycles sydd wrth wraidd y newidiadau; a bod feedback loops yn gwneud newidiadau yn yr hinsawdd yn fwy eithafol a sydyn. OND mae rhai yn tybio bod y Dryas Diweddar yn ganlyniad i gomet ffrwydro uwchben gogledd America. Does dim llawer o brawf hyd yma. (Ymddengys nad oes cysylltiad rhwng Llyn Agassiz â chyfnod y Dryas Diweddar - ond darllenwch ymlaen.....)

Daeth y cyfnod mwyn i ben eto. Oerodd yr hinsawdd ym Mhrydain rhwng 8700 a 8200 mlynedd nôl. Achos gwreiddiol yr oeri, medd rhai, oedd i Lyn Agassiz wagio'n sydyn i ogledd yr Iwerydd ar ôl i argae iâ yn ardal Bae Hudson dorri - roedd yn lyn o ddŵr croyw tros ardal anferth (30,000km2) o ganol gogledd Canada; llyn a gasglodd wrth i'r llen iâ gilio. Roedd dau ganlyniad uniongyrchol: (1) cododd lefel y môr gan 1.4m; a (2) ataliwyd y cerynt o ddŵr oer hallt sydd fel rheol yn llifo'n ddwfn ar hyd ffin cyfandirol dwyrain gogledd America i'r Caribi, ac sy'n codi ym môr y Sargasso ac yn ei dro yn gyrru Llif y Gwlff yn ôl atom ni. Ataliwyd llif y Gwlff, ac oerodd gogledd Ewrop gan 2°C a symudodd yr ardaloedd o lawiad mawr tua'r de. Tua'r un adeg, tua 8300 blwyddyn yn ôl, torrwyd Prydain oddiwrth Ewrop i greu ynys; boddwyd tir isel i greu y Môr Du hallt; a lledaenodd ffermio'n sydyn ar draws Ewrop o ardal y Cilgant Ffrwythlon. Mae'n siwr eu bod i gyd yn gysylltiedig.[2]

Safleoedd yng Nghymru

[golygu | golygu cod]

Cwm Idwal
Creigiau Gleision

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]
Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
  1. Bwletin Llên Natur 155, tudalen 2
  2. Math Williams [1] tudalen 2