Epiros
Math | Periffereiau Groeg |
---|---|
Prifddinas | Ioannina |
Poblogaeth | 319,991 |
Pennaeth llywodraeth | Alexandros Kachrimanis |
Cylchfa amser | UTC+01:00 |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Epiros |
Sir | Gwlad Groeg |
Gwlad | Gwlad Groeg |
Arwynebedd | 9,203.22 km² |
Cyfesurynnau | 39.5°N 20.83°E |
GR-D | |
Pennaeth y Llywodraeth | Alexandros Kachrimanis |
Ardal yng ngogledd-orllewin Gwlad Groeg a de Albania yw Epiros neu Epirus (Groeg: Ήπειρος Ēpeiros; Groeg Dorig: Ἅπειρος Apeiros; Albaneg: Epir neu Epiri). Mae tua 80% ohono yng Ngwlad Groeg a 20% yn Albania. Ystyr yr enw Groeg yw "cyfandirol", i'w wahaniaethu oddi wrth yr ynysoedd oddi ar ei arfordir.
Ystyrir fod yr ardal hanesyddol yn ymestyn o Fae Vlorë yn Albania cyn gelled a Gwlff Arta yng Ngwlad Groeg. Ffurfir ei ffîn ddwyreiniol gan Fynyddoedd Pindus, sy'n ei wahanu oddi wrth Macedonia a Thessalia. Ardal fynyddig yw Epiros, gyda mynyddoedd calchfaen sy'n rhan o'r Alpau Dinarig ac sy'n cyrraedd uchder o 2,650 m.
Yn y cyfnod clasurol, roedd pobl Epiros yn byw mewn pentrefi, yn hyrach nag mewn dinas-wladwriaethau. Er y credir eu bod yn siarad Groeg, dirmygid yr Epiriaid gan y Groegwyr eraill. Er hynny, roedd i Epirus bwysigwydd, oherwydd mai yno yr oedd oracl enwog Dodona. Ffurfiwyd Teyrnas Epiros; ei brenin enwocaf oedd Pyrrhus, a ddaeth i'r orsedd yn 295 CC, ac a fu'n brwydro yn erbyn Gweriniaeth Rhufain am chwe blynedd.
Yn ddiweddarach, daeth Epirus yn ran o dalaith Rufeinig Macedonia. Pan rannwyd yr ymerodraeth Rufeinig yn ran orllewinol a rhan ddwyreiniol, Epirus oedd rhan fwyaf gorllewinol yr ymerodraeth yn y dwyrain, ac yn ddiweddarach daeth yn rhan o'r Ymerodraeth Fysantaidd. Pan gipiwyd Caergystennin gan y croesgadwyr yn 1204, ymrannodd yr Ymerodraeth Fysantaidd yn nifer o rannau; un ohonynt oedd Unbennaeth Epirus. Yn 1430 daeth yr ardal yn rhan o'r Ymerodraeth Otomanaidd.
Pan enillodd Groeg annibyniaeth, parhaodd Epirus dan lywodraeth yr Otomaniaid. Rhoddwyd rhannau o dde Epiros i Wlad Groeg yng Nghytundeb Berlin yn 1881, a daeth y gweddill o dde Epiros yn eiddo Groeg wedi Rhyfeloedd y Balcanau 1912-3.