Ffotograffiaeth
Y broses o wneud lluniau trwy ddefnyddio golau yw ffotograffiaeth (o'r Groeg: φωτός, photos: "golau" a graphos γραφή sef "llun" neu "olau"), gan ddefnyddio camera.[1] Mae'n grefft i rai, difyrwaith i eraill, a hefyd caiff ei ddefnyddio ar gyfer trosglwyddo gwybodaeth, e.e. mewn newyddiaduriaeth i gofnodi digwyddiadau. Mae pobol yn cadw lluniau o bapur neu ar ffilm er enghraifft. Ceir ffotograffiaeth ffasiwn, ffotograffiaeth dogfenol, ffotograffiaeth crefft a.y.b. Erbyn heddiw mae'r rhan fwyaf o gamerau a werthir yn gamerau digidol.
Yn 1834, yn Campinas, Brasil, sgwennodd y paentiwr a'r dyfeisiwr Ffrengig Hercules Florence y gair "photographie" yn ei ddyddiadur; dyma oedd y tro cyntaf i'r gair gael ei ysgrifennu mewn unrhyw iaith.
Ffotograffiaeth yng Nghymru
[golygu | golygu cod]Dwy flynedd wedi dyfeisio ffotograffiaeth tynnodd y Parch Calvert Richard Jones y ffotograff cynharaf a gofnodwyd yng Nghymru. Tynnwyd ef ar y 9fed o Fawrth 1841, sef llun o Gastell Margam, tŷ ei gyfaill cefnog Christopher Rice Mansel Talbot. Defnyddiodd ddull o'r enw "daguerroteip". Roedd Calvert yn un o gylch o ffotograffwyr cynnar yn Abertawe a oedd yn troi o amgylch y diwydiannwr John Dillwyn Llewelyn o Benlle’r-gaer.[2]
Dyfeisiodd William Henry Fox Talbot broses ffotograffig arall a oedd yn fwy llwyddiannus. Gan ddefnyddio negatifs papur, roedd proses Talbot yn caniatáu i nifer o gopiau gael eu gwneud. Roedd Talbot yn gefnder i Emma, gwraig John Dillwyn Llewelyn. Daeth John Dillwyn Llewelyn a’i deulu yn arloeswyr cynnar ffotograffiaeth yn ystod yr 1840au a 1850au.
Mae gan y Llyfrgell Genedlaethol dros 800,000 o ffotograffau sy’n gysylltiedig â Chymru.
Yn 1863 dechreuodd John Thomas werthu cartes des visite o enwogion Cymreig y dydd. Roedd hefyd yn tynnu ffotograffau o bobl gyffredin, yn aml wrth eu gwaith. Cofir amdano fwyaf heddiw am ei olygfeydd topograffig. Mae dros 3,000 o ffotograffau John Thomas yn y Llyfrgell Genedlaethol.
Ffotograffwyr nodedig
[golygu | golygu cod]Ymhlith ffotograffwyr mawr y byd mae:
- Edward Steichen o'r UDA
- John Szarkowski o'r UDA
- Philip Jones Griffiths o Ruddlan, ffotograffau rhyfel Fietnam
- Antony Armstrong-Jones "Iarll Snowdon"
- John Thomas (1838-1905) o Geredigion
- Ansel Easton Adams (1902 – 1984). Ffotograffydd o Orllewin America
- Y Parch. Calvert Richard Jones
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ φάος, Henry George Liddell, Robert Scott, A Greek-English Lexicon, on Perseus
- ↑ Gwefan y Llyfrgell Genedlaethol Cymru; adalwyd 2 Medi 2013.