Melanie C
Melanie C | |
---|---|
Ffugenw | Mel C, Sporty Spice |
Ganwyd | Melanie Jayne Chisholm 12 Ionawr 1974 Whiston |
Man preswyl | Llundain |
Label recordio | Virgin Records, Bonnier Amigo Music Group AB |
Dinasyddiaeth | Lloegr |
Alma mater | |
Galwedigaeth | canwr-gyfansoddwr, canwr, actor, artist recordio |
Arddull | cerddoriaeth boblogaidd, Britpop, roc poblogaidd |
Gwefan | http://www.melaniec.net |
Cantores boblogaidd o Loegr yw Melanie C neu Mel C (ganwyd 12 Ionawr 1974) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel canwr-gyfansoddwr, cerddor, entrepreneur, bardd a pheroriaethwr.
Fe'i ganed yn Whiston, Swydd Gaerhirfryn, Lloegr ar 12 Ionawr 1974.[1][2]
Mae hi'n un o bum aelod y Spice Girls, lle cafodd y llysenw Sporty Spice. Ers 1996, mae Melanie wedi gwerthu dros 105 miliwn o recordiau, gan gynnwys 85 miliwn o gopïau gyda'r grŵp, ac 20 miliwn o albymau, senglau fel unigolyn, ac mae wedi ennill dros 325 o ardystiadau byd-eang (yn cynnwys nifer o ddiemwntau), gan gynnwys 40 o ardystiadau arian, aur a phlatinwm, fel artist unigol.
Magwraeth
[golygu | golygu cod]Melanie Jayne Chisholm oedd yr unig blentyn yn y teulu. Priododd ei rhieni ar 12 Ionawr 1971 ac ym 1978, ysgarodd y ddau, pan oedd Melanie yn bedair oed a hanner. Gweithiodd ei thad, Alan Chisholm, fel ffitiwr yng Nghwmni Otis Elevator ac roedd ei mam, Joan O'Neill, yn gweithio fel ysgrifenyddes a PA; roedd wedi bod yn canu mewn bandiau cerdd ers oedd yn 14. Magwyd Melanie C yn Widnes, Sir Gaer lle mynychodd Ysgol Uwchradd Fairfield.
Wedi'r ysgol, astudiodd ar gyfer cwrs diploma mewn dawns, canu, drama, a theatr gerddorol yng Ngholeg Celfyddydau Perfformio Doreen Bird yn Sidcup, De-ddwyrain Llundain. Tra yn y coleg, atebodd hysbyseb yn The Stage gan Chris a Bob Herbert, a oedd yn bwriadu ffurfio grŵp merched newydd, yn ddiweddarach i fod yn Spice Girls. Enillodd gymwysterau addysgu tap a dawns theatr fodern gyda Chymdeithas Imperial Athrawon Dawnsio ond gadawodd y coleg ychydig cyn cwblhau ei chwrs tair blynedd.
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Dechreuodd Melanie C ei gyrfa unigol ar ddiwedd 1998 trwy ganu gyda'r canwr roc o wledydd Prydain, Bryan Adams, gyda'r gân "When You're Gone". Rhyddhawyd ei halbwm cyntaf, Northern Star, yn 1999, gan gyrraedd rhif 1 yn Sweden a rhif 4 ar Siart Albymau y DU. Cafodd ei ardystio'n rhyngwladol gyda saith ardystiad platinwm a thair aur, gan gynnwys Platinwm triphlyg gan y Diwydiant Ffonograffig Prydeinig, gan werthu dros 4 miliwn o gopïau ledled y byd, a dod yn albwm solo gorau unrhyw aelod o'r Spice Girls.[3]
Daeth bedair gwaith yn y "prif 5" ac yn yr 20 sengl uchaf: cyrhaeddodd dau ohonynt y rhif 1 yn y DU. Cafodd yr albwm ei ardystio'n aml-blatinwm ledled y byd.[4]
Disgyddiaeth
[golygu | golygu cod]- Northern Star (1999)
- Reason (2003)
- Beautiful Intentions (2005)
- This Time (2007)
- The Sea (2011)
- Stages (2012)
- Version of Me (2016)
Anrhydeddau
[golygu | golygu cod]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Rhyw: Gemeinsame Normdatei. dyddiad cyrchiad: 14 Mehefin 2024.
- ↑ Dyddiad geni: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 26 Ebrill 2014 "Melanie C". Discogs. Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
- ↑ "BPI Certified Awards". British Phonographic Industry. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 24 Medi 2009. Cyrchwyd 4 Medi 2009. Unknown parameter
|deadurl=
ignored (help) - ↑ "UK Charts > Melanie C". Official Charts Company. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 28 Rhagfyr2010. Cyrchwyd 26 Gorffennaf 2010. Unknown parameter
|deadurl=
ignored (help); Check date values in:|archivedate=
(help)