Schnauzer
Enghraifft o'r canlynol | dog breed type |
---|---|
Math | Daeargi |
Yn cynnwys | Giant Schnauzer, Standard Schnauzer, Miniature Schnauzer |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Ci sy'n tarddu o'r Almaen yw'r Schnauzer.[1] Ceir tri brîd: Mawr, Safonol, a Bach. Ystyrir y meintiau Mawr a Safonol yn gŵn gwaith a'r maint Bach yn ddaeargwn.[2]
O'r Schnauzer Safonol y datblygodd y ddau frîd arall. Mae paentiadau ohono sy'n dyddio'n ôl i'r 15g. Yn wreiddiol roedd yn warchotgi a llygotgi gydag enw fel ci dewr a deallus. Mae ganddo drwyn barfog a chôt o flew gwrychog o liw du neu frith "pupur a halen". Mae ganddo daldra o 43 i 51 cm (17 i 20 modfedd). Mae'n gi cryf sy'n boblogaidd fel gwarchotgi a chi cymar, a negesydd, ci'r Groes Goch, a chi heddlu.[2]
Datblygodd y Schnauzer Bach o Schnauzers Safonol bychain ac Affenpinsieri. Arddangoswyd fel brîd ar wahân yn gyntaf ym 1899. Mae ganddo daldra o 30.5 cm i 35.5 cm (12 i 14 modfedd). Mae ei gôt yn frith pupur a halen, arian a du, neu'n ddu. Er ei faint mae hefyd yn frîd cryf, ac yn fywiog, ac yn anifail anwes poblogaidd.[2]
Datblygodd y Schnauzer Mawr gan ffermwyr gwartheg Bafaraidd oedd ar eisiau ci gwartheg yn debyg i'r Schnauzer Safonol ond yn fwy o faint. I ddatblygu'r brîd hwn cafodd y Schnauzer Safonol ei groesi ag amrywiaeth o gŵn gwaith, ac yn hwyrach Ci Mawr Denmarc du. Mae'n gi cryf gyda chôt wrychog o liw pupur a halen, du, neu felyn a du. Mae ganddo daldra o 60 i 70 cm (23.5 i 27.5 modfedd). Yn ogystal â'i waith fel ci gwartheg cafodd ei ddefnyddio hefyd yn hanesyddol fel ci cigydd a gwarchotgi mewn bragdai. Ers dechrau'r 19g, defnyddiwyd fel ci heddlu ar draws yr Almaen.[2]
-
Schnauzer Bach
-
Schnauzer Safonol
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Geiriadur yr Academi, [schnauzer].
- ↑ 2.0 2.1 2.2 2.3 (Saesneg) schnauzer. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 12 Hydref 2014.