Syndicaliaeth
Tueddiad neu ideoleg o fewn y mudiad llafur yw syndicaliaeth sydd yn pleidio gweithredu uniongyrchol gan y dosbarth gweithiol er mwyn trosglwyddo perchnogaeth a rheolaeth ar foddion cynhyrchu a dosbarthu i'r undebau llafur.[1] Ei nod felly yw ysgogi rhyfel dosbarth a dymchwel y drefn gyfalafol sydd ohoni, gan gynnwys y wladwriaeth, i ennill rheolaeth gyfan gan y gweithwyr, drwy ddulliau chwyldroadol yn hytrach na diwygiadau neu'r broses seneddol. Mae syniadaeth syndicalaidd yn cyfuno damcaniaethau Marcsaidd ac anarchaidd, ac yn gwrthod yr agwedd dotalitaraidd ar gomiwnyddiaeth. Mewn cyferbyniad â sosialwyr eraill, canolbwyntia syndicalwyr ar drefnu'r dosbarth gweithiol drwy undebau llafur yn hytrach na phleidiau gwleidyddol.
Blodeuai'r mudiad syndicalaidd yn Ffrainc ar ddechrau'r 20g, a chafodd ddylanwad mawr hefyd yn Sbaen, yr Eidal, ac America Ladin.
Hanes
[golygu | golygu cod]Datblygodd syndicaliaeth ar sail y traddodiad gwrth-seneddol a'r taliadau anarchaidd ymhlith y dosbarth gweithiol yn Ffrainc. Tua diwedd y 19g, lluniwyd athrawiaeth chwyldroadol gan arweinwyr yr undebau llafur (syndicats) a ddangosai ddylanwad cryf yr anarchydd Pierre-Joseph Proudhon a'r sosialydd Auguste Blanqui. Rhoddwyd yr enw syndicalisme révolutionnaire ar y mudiad newydd, a benthycwyd felly y term syndicaliaeth gan ieithoedd eraill.[2]
Daeth y tueddiadau hyn yn amlwg yn y 1890au o fewn y ddau brif undeb llafur yn Ffrainc, y Confédération générale du travail (CGT) a'r Fédération des Bourses du travail. Yn sgil cytundeb y ddau undeb hwn i gydweithio ym 1902,[3] bu syndicaliaeth ar ei hanterth hyd at amhariad y Rhyfel Byd Cyntaf ar y mudiad ym 1914.
Ni châi syndicaliaeth fawr o ddilynwyr ym Mhrydain ac Iwerddon, am i'r mudiad llafur uno i gefnogi'r Blaid Lafur a sefydlwyd ym 1900.[4]
Ar ochr draw'r Iwerydd, sefydlwyd Gweithwyr Diwydiannol y Byd (IWW) yn Unol Daleithiau America ym 1905. Byddai'r undeb mawr hwn yn esiampl i ddadl y syndicalwyr Americanaidd dros undebau cryf a chanoledig, tra'r oedd y Ffrancod ac Ewropeaid eraill yn ffafrio mân-undebau lleol. Pasiwyd deddfau i gwtogi ar weithgareddau'r syndicalwyr mewn sawl talaith yn yr Unol Daleithiau.[5]
Pallodd y mudiad syndicalaidd yn y 1920au, a throdd nifer o'i gyn-gefnogwyr at grwpiau chwyldroadol eraill megis y Trotscïaid, neu at bleidiau adain-chwith anchwyldroadol.
Syniadaeth
[golygu | golygu cod]Yn ôl y meddylfryd syndicalaidd, dwy swyddogaeth sydd gan yr undeb llafur: i drefnu'r gweithwyr ar gyfer y rhyfel rhwng y dosbarthiadau, ac i ddarparu'r craidd elitaidd ar gyfer cymdeithas wedi'r chwyldro. Byddai'r dosbarth gweithiol yn cael ei ryddhau trwy weithredu uniongyrchol, yn enwedig tacteg y streic gyffredinol, yn hytrach na thrwy'r broses seneddol neu wrthryfel gwleidyddol. Buont hefyd yn arddel difrod bwriadol a thactegau eraill a ystyriwyd yn filwriaethus gan sosialwyr anchwyldroadol.
Mae syndicaliaeth yn ystyried y wladwriaeth yn fodd i'r drefn gyfalafol orthrymu'r dosbarth gweithiol, ac yn sefydliad biwrocrataidd, aneffeithlon na allai gael ei addasu at gymdeithas sosialaidd. Dadleuant felly o blaid diddymu'r wladwriaeth yn gyfan gwbl yn hytrach na cheisio'i meddiannu neu ddiwygio.
Dychmygai'r gymuned ddelfrydol gan y syndicalwyr cynnar fel rhwydwaith o syndicats lleol, cymdeithasau rhydd o "gynhyrchwyr" (yn hytrach na gweithwyr). Byddai'r unedau sylfaenol hyn yn cysylltu a'i gilydd drwy'r bourses du travail (cyfnewidfeydd llafur), a fyddai'n gweithredu fel swyddfeydd cyflogi ac asiantaethau cynllunio economaidd. Byddai'r cynhyrchwyr yn ethol cynrychiolwyr i weinyddu'r bourse du travail lleol ac i asesu anghenion economaidd yr ardal, ac felly i gydlynu'r drefn ddiwydiannol gyda'r bourses eraill.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Gwleidyddiaeth |
---|
Safbwyntiau |
Geirfa |
- Comiwnyddiaeth y cyngor
- Georges Sorel
- Sosialaeth iwtopaidd
- Sosialaeth urdd
- Undebaeth grefft
- Undebaeth ddiwydiant
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ syndicaliaeth. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 10 Medi 2021.
- ↑ Ystyr syndicalisme ar ben ei hun yn Ffrangeg yw "undebaeth lafur".
- ↑ (Saesneg) Syndicalism. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 10 Medi 2021.
- ↑ J. A. Cannon, "Syndicalism" yn The Oxford Companion to British History. Adalwyd ar wefan Encyclopedia.com ar 10 Medi 2021.
- ↑ Gordon S. Watkins, "Syndicalism" yn Dictionary of American History. Adalwyd ar wefan Encyclopedia.com ar 10 Medi 2021.
Darllen pellach
[golygu | golygu cod]- Howard Kimeldorf, Battling for American Labor: Wobblies, Craft Workers, and the Making of the Union Movement (Berkeley, Califfornia: University of California Press, 1999).