Eratosthenes
Eratosthenes | |
---|---|
Ganwyd | Ἐρατοσθένης 276 CC Cyrene, Apollonia |
Bu farw | Alexandria |
Galwedigaeth | mathemategydd, seryddwr, bardd, llyfrgellydd, hanesydd, llenor, cerddolegydd, damcaniaethwr cerddoriaeth, daearyddwr, marwnadwr, athronydd |
Swydd | pennaeth Llyfrgell Alexandria |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | sieve of Eratosthenes, Catasterismi |
Ysgolhaig ac athronydd Groegaidd amryddawn (fl. 275 CC - 195 CC efallai), yn enedigol o ddinas Cyrene, ar arfordir Gwlff Sidra (Syrtes) yn Libya, Gogledd Affrica.
Bywyd
[golygu | golygu cod]Dechreuodd ei addysg yn ei ddinas enedigol cyn symud i Athen i astudio athroniaeth. Rhoddodd ei ddarlith gyntaf ar athroniaeth yno. Yn 247 CC fe'i gwahoddwyd i Alecsandria gan Ptolemi III Euergetes i gymryd drosodd fel llyfrgellydd yn lle Callimachus yn llyfrgell enwog y ddinas; yr ail yn unig i ddal y swydd honno. Mesurodd gylchedd y Ddaear a gradd yr ecliptig. Dywedir iddo farw o wrthod cymryd bwyd yn 195 CC, gan fod ei lygaid yn dechrau methu ac nid oedd yn medru parhau â'i waith.
Gwaith
[golygu | golygu cod]Roedd yn feistr ar bron pob cangen o wyddoniaeth a dysg yr Hen Fyd, gan gynnwys hanes, daearyddiaeth, geometreg, seryddiaeth, athroniaeth, gramadeg a barddoniaeth. Oherwydd y doniau hyn enillodd iddo ei hun y teitl Pentathlos "Meistr ar y Pum Camp" (anrhydedd a roddid fel rheol i athletwyr penigamp). Dywedir hefyd ei fod y cyntaf i ymarddel yr enw Philologos "Cyfaill Dysg (neu Wybodaeth)". Gellid dweud mai Eratosthenes yw sefydlwr daearyddiaeth wyddonol (mawr oedd dyled Strabo, yr enwocaf o ddaearyddwyr y byd clasurol, iddo). Ei gyfrolau pwysicaf yw:
- Y Geographica (3 llyfr). Ffynhonnell bwysig yng ngwaith Strabo. Nid oes testun ohono wedi goroesi.
- Y Chronographia. Llyfr sy'n ceisio defnyddio seryddiaeth a mathemateg i sefydlu cronoleg hanes.
- Llyfr ar Yr Hen Gomedi Roeg.
- Y Catalogoi. Cymysgedd o seryddiaeth a chwedloniaeth. Casgliad o'r hen chwedlau yn ymwneud â'r sêr oedd yn cael ei dilyn gan restr o'r sêr unigol yn y cytserau cysylltiedig. Mae'r Catasterismoi, sy'n rhestru 44 cytser a 475 o sêr, ynghyd â chwedlau, wedi goroesi ac yn seiliedig ar waith Eratosthenes.
- Hermes. Arwrgerdd.
- Erigone. Telyneg (elegy) enwog yn ei dydd.
Drylliau yn unig o hynny oll sydd wedi goroesi, y rhan fwyaf mewn dyfyniadau a chyfeiriadau gan ysgrifenwyr clasurol diweddarach.
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Oskar Seyffert, A Dictionary of Classical Antiquities, gyda ychwanegiadau gan H. Nettleship a J.E. Sandys (Llundain, 1902).
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- Geodedd: cangen o fathemateg gymhwysol